Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu’r dyn 46 oed a hysbyswyd ei fod wedi’i sgubo allan i’r môr wedi diolch i’r rhai hynny fu ynghlwm yn y chwilio dros y penwythnos.
Ar ddydd Sadwrn 29 Gorffennaf, toc ar ôl 7pm, hysbyswyd fod Gareth Bowen wedi mynd i’r dŵr o’r creigiau ym Mae Trearddur, Ynys Môn.
Er chwiliadau gan amlasiantaethau dros y penwythnos, ni ddaethpwyd o hyd i Gareth, yn anffodus. Mae chwiliadau gwylwyr y glannau yn yr ardal bellach wedi dod i ben.
Mae teulu Gareth wedi mynegi eu diolch i’r asiantaethau a oedd ynghlwm â’r chwiliadau.
Dywedodd Lorraine, mam Gareth: “Mae ein teulu’n hynod ddiolchgar am y chwiliadau a’r ymdrech a wnaed gan bawb wrth chwilio am Gareth ers nos Sadwrn.”
Mae ymholiadau’r heddlu yn parhau.