Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar raddfa sydd erioed wedi cael ei weld o’r blaen, mae heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr wedi cydlynu miloedd o gyrchoedd cyffuriau yn erbyn Grwpiau Troseddau Trefnedig (OCG), gan arestio cannoedd o bobl ac atafaelu drylliau tanio, swm enfawr o arian a phlanhigion canabis gwerth oddeutu £115 a £130 miliwn.
Drwy gydol mis Mehefin, bu heddluoedd yn chwilio ac yn darganfod ffatrïoedd canabis enfawr yn yr ymgyrch genedlaethol fwyaf o’i bath yn y DU, wedi’i anelu at dargedu grwpiau troseddau trefnedig a’u ffynonellau incwm anghyfreithlon.
Cafodd rhwydweithiau troseddol sy'n ymwneud â gwerthu cyffuriau, troseddau mewnfudo a gwyngalchu arian eu targedu gan yr heddlu ac asiantaethau partner fel rhan o Ymgyrch Millie, pan wnaeth heddluoedd ganolbwyntio adnoddau ar fynd i’r afael â thyfu canabis ar raddfa fawr – ffynhonnell allweddol o incwm anghyfreithlon ar gyfer gangiau trefnedig.
Yng Ngogledd Cymru cyflawnwyd y canlynol:
Mae'r cysylltiadau rhwng troseddau difrifol a'r rhai sy'n ymwneud â thyfu canabis yn glir, gyda'r fasnach gyffuriau yn hybu trais gan gangiau wrth i grwpiau gystadlu am diriogaeth a cheisio mynd ar drywydd eu cystadleuwyr.
Cynhaliwyd Ymgyrch Mille ar draws y 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr, gan weithio gyda’r Uned Troseddau Trefnedig Rhanbarthol a phartneriaid, er mwyn targedu’r gangiau troseddol sydd ynghlwm â chynhyrchu canabis a throseddu difrifol.
Meddai Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r rhwydwaith plismona cenedlaethol i dargedu a tharfu ar gynhyrchu canabis cyfundrefnol yn ein rhanbarth.
“Ni fydd y math yma o droseddu yn cael ei oddef, felly drwy adnabod, targedu a datgymalu ffatrïoedd canabis mawr, rydym yn gallu atal troseddu mwy difrifol, a gwarchod y rhai hynny sy’n fregus ac mewn peryg o gael eu hecsbloetio.
“Mae ein gwaith yn taclo’r math yma o droseddu yn ddibynnol ar cael gwybodaeth gan y cyhoedd, nhw yn aml yw’r rhai cyntaf i sylweddoli ar ymddygiad amheus yn eu cymunedau. Rydym eisiau clywed gan unrhyw un sy’n gweld ymddygiad anarferol – ma hwn hefyd yn cynnwys perchnogion busnes gan bod ffatrïoedd canabis yn gallu cael eu sefydlu mewn unedau diwydiannol a siopau gwag.
“Mae ffatrïoedd canabis yn peryglu’r cyhoedd. Mae’r ynni sydd ei angen ar gyfer tyfu planhigion yn golygu bod troseddwyr yn dargyfeirio’r cyflenwad trydan er mwyn osgoi talu. Mae hwn yn beryglus oherwydd risg tân i’r rhai sy’n cael eu gorfodi i fyw a gweithio yno, a hefyd yn peryglu aelodau o’r cyhoedd mewn adeiladau cyfagos.
“Mae’r math hwn o ymgyrch wedi gweld ymdrech enfawr o gydweithio gan y lluoedd rhanbarthol sy’n benderfynol nad oes lle i gyffuriau yn y Gogledd Orllewin, ac mi fydd y gwaith yma yn parhau.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am ffatri ganabis posib neu am werthu cyffuriau gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar-lein neu drwy ffonio 101.
Gall pobl hefyd gysylltu â Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555 111 neu drwy crimestoppers-uk.org
Mae’r canlyniadau cenedlaethol ar gyfer Ymgyrch Mille fel y canlynol:
Dyma rai arwyddion allweddol sy’n dangos y gallai eiddo fod yn cael ei ddefnyddio fel ffatri ganabis: