Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiwyd dau ddyn lleol dros y penwythnos fel rhan o Ymgyrch Rokon.
Arestiwyd dyn 35 oed ar amheuaeth o fyrgleriaeth, cymryd cerbyd modur heb awdurdod a llosgi bwriadol.
Arestiwyd dyn 27 oed ar amheuaeth o fyrgleriaeth.
Ers hynny, mae’r ddau wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth gydag amodau.
Yn dilyn adroddiadau diweddar, sefydlwyd Ymgyrch Rokon er mwyn targedu llecynnau sy’n dioddef byrgleriaeth a phobl yn ymyrryd â cherbydau yn ardal Gogledd Gwynedd.
Gwnaiff swyddogion barhau i gynnal patrolau amlwg yn yr ardal er mwyn tawelu meddwl tra mae ein hymchwiliadau’n parhau.