Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw carcharwyd gang o Lannau Mersi yn dilyn cyfres o fyrgleriaethau ar draws Gogledd Cymru.
Ymddangosodd Aidan Quirk, Curtis Roberts a Daniel Doyle o flaen Llys y Goron Caernarfon heddiw a'u dedfrydu i gyfanswm o dros 20 mlynedd.
Rhyngddynt, buont yn targedu cyfeiriadau ar draws sir y Fflint, Conwy a Gwynedd rhwng 6 Ionawr a 6 Chwefror eleni, gan dargedu tai pobl hŷn yn benodol am arian a gemwaith.
Ar ôl cael eu herlid am 27 milltir ar ochr anghywir yr A550, M56 a'r M6, arestiwyd y tri ar 6 Chwefror.
Plediodd Quirk, 30 oed sydd heb gartref sefydlog, Roberts 28 oed o Elleray Drive, Lerpwl a Doyle, 28 o Corinthian Street, Lerpwl, i gyd yn euog o gynllwynio i gyflawni saith trosedd o fyrgleriaeth yng Nghonwy ar 6 Chwefror.
Cyfaddefodd Quirk a Roberts eu bod wedi cynllwynio pedair trosedd o fyrgleriaeth yn Sir y Fflint ar 23 Ionawr.
Yn ychwanegol, plediodd Quirk yn euog o gynllwynio i gyflawni pedwar byrgleriaeth yng Ngwynedd ar 6 Ionawr, bod â chyffur Dosbarth A yn ei feddiant a sawl trosedd yrru yn cynnwys gyrru yn beryglus, gyrru tra wedi cael ei wahardd a heb yswiriant a methu â rhoi sampl ar gyfer dadansoddi.
Cyhuddwyd Doyle o fod â chyffur Dosbarth B yn ei feddiant.
Dechreuodd y byrgleriaethau yng ngogledd Gwynedd ar 6 Ionawr eleni, pan gyflawnodd Quirk sawl trosedd yn Llanrug, Tregarth, Penisa’r-waun a Chwm y Glo.
Teithiodd i'r ardal mewn Vauxhall Vivaro gyda rhif cerbyd ffug a thorri i mewn i dri eiddo, gan ddwyn gwerth miloedd o bunnau o nwyddau.
Methodd â stopio pan gafodd ei erlid ar ochr anghywir y draffordd gan swyddogion cyn cael ei ddal.
Ar ddydd Llun 24 Ionawr cafodd pedwar cartref yn Sir y Fflint gan gynnwys dau yng Nhilcain a dau ym Mhantymwyn eu difrodi gan Quirk a Roberts, a wnaeth ddwyn gemwaith drud a gwerthfawr oddi wrth y perchnogion, yn ogystal â nifer o fedalau rhyfel.
Ar 6 Chwefror teithiodd Quirk, Roberts a Doyle i ardal Conwy yn yr un Vauxhall Vivaro gyda rhif ffug gan gyflawni saith trosedd - yn bennaf mewn cartrefi pobl hŷn.
Cyflawnwyd y fyrgleriaeth gyntaf ar Ffordd Llaneilian, Bae Colwyn, gan dorri ffenestri tŷ gŵr oedrannus a dwyn gemwaith yn perthyn i'w ddiweddar wraig, yn ogystal â nwyddau eraill.
Yn fuan wedyn, ceisiodd y ddau ddwyn o dŷ arall ar yr un ffordd cyn targedu trydydd eiddo ar Ryd y Foel, Abergele gan ddwyn nifer o emau.
Y noson honno, riportiodd gŵr oedrannus a oedd yn byw ar ben ei hun yn Nolwen, Abergele bod rhywun wedi torri i mewn i'w gartref gan greu llanast wrth chwilio am rywbeth, er na chafodd dim ei ddwyn.
Torrwyd i mewn i dŷ yn Lôn y Gors, Pensarn gan y gang ar yr un diwrnod, gan greu llanast a dwyn gemwaith ac eitemau eraill o du mewn i’r tŷ.
Riportiwyd dwy fyrgleriaeth arall ar Lon y Cyll, Pensarn lle cafodd mwy o eiddo ei ddwyn.
Arestiwyd y tri yn fuan wedyn yn dilyn erlid gan yr heddlu.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio, Ditectif Brif Gwnstabl Sean Harrison: "Mae Quirk, Roberts a Doyle yn aelodau o gang troseddau trefnedig soffistigedig sy’n gyfrifol am gyfres o fyrgleriaethau mawr ar draws Gogledd Cymru.
“Ni ddylid diystyru effaith eu troseddau.
"Mae gwybod bod troseddwyr wedi bod yn eich cartref, lle dylech deimlo fwyaf diogel, yn mynd drwy eich eiddo gan ddwyn eiddo personol yn ofnadwy. Mae byrgleriaethau nid yn unig yn cael effaith andwyol ar unigolion ond hefyd ar y cymunedau lle mae'r troseddau hyn yn cael eu cyflawni.
“Mae dioddef y fath drosedd yn frawychus hyd yn oed os nad oes unrhyw eiddo'n cael ei ddwyn ac ni ddylai neb orfod mynd drwy'r fath brofiad.
“Gwelwyd targedu unigolion am arian a gemwaith yn y troseddau penodol hyn gan ddwyn gemwaith drud ac o werth personol mawr.
“Gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn rhoi peth cysur i'r dioddefwyr ac yn eu galluogi i edrych ymlaen at y dyfodol. Byddwn yn parhau i wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag e.
Rhoddwyd y dedfrydau canlynol:
Cafodd ei ddedfrydu i wyth mlynedd a chwe mis am gynllwynio i gyflawni trosedd o fyrgleriaeth, bod â chyffur Dosbarth A yn ei feddiant, gyrru yn beryglus, gyrru tra wedi cael ei wahardd a heb yswiriant a methu â rhoi sampl ar gyfer dadansoddi.
Cafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd a naw mis am gynllwynio i gyflawni trosedd o fyrgleriaeth.
Cafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd am gynllwynio i gyflawni trosedd o fyrgleriaeth a fod â chyffur Dosbarth B yn ei feddiant.