Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn annog trigolion i fod yn wyliadwrus ar ôl adroddiadau diweddar am fyrgleriaethau mewn pentrefi gwledig yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych.
Mae patrolau wedi cynyddu mewn ardaloedd hysbys ac mae swyddogion wedi bod hwnt ac yma yn codi ymwybyddiaeth am leihau'r risg o fyrgleriaethau.
Mae byrgleriaid yn aml yn lladron bachog sy'n targedu tai a fflatiau. Maent yn chwilio am unrhyw wendid er mwyn manteisio arno, yn enwedig drysau a ffenestri sy'n cael eu gadael ar agor neu heb eu cloi neu sy'n hawdd eu hagor.
Cynorthwywch gadw lladron allan drwy beidio rhoi lle cuddio iddynt a rhwystrwch fyrgleriaeth tynnu sylw:
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Kris Williams: "Mae dioddef byrgleriaeth yn eich cartref yn ymyriad personol. Rydym yn deall yr effaith sylweddol mae hyn yn ei gael ar ddioddefwyr.
"Mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio'n galed o fewn eu cymunedau er mwyn mynd ati i leihau'r math hwn o drosedd, drwy ymweld â thrigolion a'u gwneud yn ymwybodol o'r bygythiadau. Fe'u cynorthwyir hefyd i wneud eu heiddo’n llai deniadol i droseddwyr."
Er mwyn lleihau troseddau caffael ymhellach a gwella diogelwch yn ein cymunedau, rydym newydd lansio'r fenter "Dangos y Drws i Drosedd".
Am fwy o wybodaeth, ewch ar ein gwefan yma – Dangos y Drws i Drosedd | Heddlu Gogledd Cymru
Os ydych yn gweld unrhyw un amheus yn eich ardal, gallwch ein hysbysu ni drwy'r sgwrs we fyw neu drwy ffonio 101.
Am fwy o wybodaeth am atal trosedd, ewch ar ein gwefan yma: Cadwch ladron allan o'ch eiddo | Heddlu Gogledd Cymru
Am y wybodaeth ddiweddaraf am drosedd, digwyddiadau, cyngor a gweithgarwch plismona cyffredinol yn eich ardal leol, cofrestrwch am Rybuddion Cymunedol Gogledd Cymru yma: Cofrestrwch – Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru