Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn lansio adroddiad misol er mwyn amlygu'r gwaith sy'n cael ei wneud er mwyn ymdrin â thrais yn erbyn merched a genethod (VAWG).
Bob mis, amlygir nifer o ganlyniadau cadarnhaol a wnaed gan Heddlu Gogledd Cymru fel rhan o ymroddiad yr heddlu o gael gwared ar droseddau VAWG.
Mae canlyniad cadarnhaol yn cyfeirio at bob canlyniad terfynol mewn achos gan gynnwys cyhuddiadau, gwŷs, ceisiadau drwy'r post, rhybuddion, ystyriaethau (TICs), hysbysiad cosb am anrhefn (PND), rhybuddion cyffuriau a datrysiadau cymunedol/adferol.
Nod yr adroddiad ydy codi ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd fod pob adroddiad yn cael ei ystyried o ddifrif, ac annog dioddefwyr eraill i siarad allan yn erbyn unrhyw fath o drais.
Ym mis Mehefin, gwnaed cyfanswm o 150 o ganlyniadau cadarnhaol yn berthnasol i droseddau o Drais yn erbyn Merched a Genethod gan Heddlu Gogledd Cymru.
Roedd y rhain yn cynnwys 79 o gyhuddiadau, 48 o gyhuddiadau trosedd amgen, 2 rybudd, 4 o rybuddion trosedd amgen ac 17 o ddatrysiadau cymunedol.
O'r 150 o droseddau VAWG, roedd 64% (96 o droseddau) yn berthnasol i faterion domestig, gyda 35% (52) o droseddau treisgar gydag anaf. Roedd bron i 30% (44) yn droseddau stelcian ac aflonyddu, ac roedd 13% (20) yn droseddau trais arall heb anaf.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Jason Devonport, Arweinydd VAWG Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym wedi ymroi dileu trais yn erbyn merched a genethod. Rydym yn cydnabod fod pryder ynghylch diogelwch personol a thrais mor fawr ag y mae wedi bod erioed.
"Mae aflonyddu, cam-drin a thrais yn digwydd bob dydd i ferched ac maent wedi effeithio eu bywydau am lawer rhy hir. Gall yr effaith mae'n ei gael fod yn ddinistriol a hirhoedlog, ac i rai, yn newid bywyd.
"Mae'r adroddiad misol hwn yn gyfle i godi ymddiriedaeth y cyhoedd ac annog dioddefwyr i siarad allan yn erbyn trais gan hyderu y gweithredir yn gadarn yn erbyn unrhyw un sy'n cyflawni trosedd VAWG.
"Mae'n hanfodol fod gan ferched a genethod ffydd lawn yng ngallu plismona er mwyn eu cadw nhw'n ddiogel.
"Ein perwyl ydy gwneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel yn y DU i weithio, byw ac ymweld. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd unrhyw adroddiadau i ni yn cael eu trin yn ddifrifol a chyda blaenoriaeth."
Mae trais yn erbyn merched a genethod yn unrhyw drais ar sail rhywedd ar sail sydd wedi'i anelu at ferch oherwydd ei bod yn ferch neu drais sy'n cael ei ddioddef yn anghymesur gan ferched.
Mae'r mwyafrif o VAWG gan ddynion yn erbyn merched a genethod (er gall dynion hefyd ddioddef trais neu gam-drin).
Mwy o wybodaeth am ymateb Heddlu Gogledd Cymru i ymdrin â Thrais yn Erbyn Merched a Genethod yma - Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)