Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ystod mis Mehefin, bu Enfysau a Brownis Dolgellau mewn digwyddiadau codi sbwriel yn y parc ac ar y Marian yn Nolgellau. Roedd hyn er mwyn hyrwyddo amgylchfyd glân a thaclus a chynorthwyo eu cymuned leol, a wnaeth werthfawrogi eu hymdrechion yn fawr.
Er mwyn diolch iddynt am eu gwaith caled er mwyn gwella eu cymuned, aeth SCCH Gareth Jones i weld Enfysau 1af Dolgellau yr wythnos ddiwethaf er mwyn rhoi siec am £150 iddynt gan PACT er mwyn cynorthwyo ariannu prosiectau pellach yn y gymuned.
Roeddem wedi'n taro gan frwdfrydedd pawb i gymryd rhan mewn codi sbwriel yn y gymuned a da iawn i bawb!
Dywedodd Dave Evans, Rheolwr Prosiectau PACT: "Rwyf yn hynod falch fod PACT wedi gallu cynorthwyo SCCH Gareth a'i waith gyda phobl ifanc yn Nolgellau. Da iawn i bawb a gymerodd ran yn y codi sbwriel.
Un o amcanion cronfa Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT) ydy hyrwyddo ymgysylltu cymunedol. Dylai unrhyw sefydliad sy'n dymuno gwneud cais am grant gysylltu â'u Tîm Plismona Cymdogaethau lleol a all eu cynghori a'u cynorthwyo nhw."