Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae rhagor o aelodau o gang troseddau trefnedig a wnaeth addasu cerbydau er mwyn smyglo llawer iawn o gyffuriau i Wrecsam o Lannau Mersi wedi'u carcharu am gyfanswm o bron 46 o flynyddoedd.
Yn Llys y Goron Caernarfon, dedfrydwyd 4 ar ôl cyfaddef cynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B. Cyhuddwyd un arall am meddu ar gyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Daw hyn yn dilyn dedfrydu saith arall i 47 mlynedd fis Mawrth, ar ôl cyfaddef cynllwynio cyflenwi cyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B. Cyhuddwyd un arall am atal cwrs cyfiawnder.
Dedfrydwyd y grŵp i gyfanswm o bron i 93 mlynedd yn y carchar.
Cafodd symudiadau'r rhai hynny a amheuwyd o fod ynghlwm eu monitro'n agos gan Heddlu Gogledd Cymru am saith mis rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Chwefror 2022 fel rhan o Ymgyrch Blue Cashel.
Rhwystrwyd y gang droseddol o'r diwedd ym mis Chwefror 2022, pan weithredodd swyddogion warantau chwilio ledled Gogledd Cymru a Glannau Mersi a arweiniodd at gasglu llawer iawn o gyffuriau ac arian parod.
At ei gilydd, atafaelwyd dros i 18kg o gocên, dros 19kg o amffetamin ac 885 gram o ganabis fel rhan o'r ymgyrch - gwerth stryd a amcangyfrifir i fod hyd at £2 miliwn.
Canfuwyd tri cherbyd wedi'u haddasu i gyd gyda chuddfannau electronig soffistigedig yn y llawr er mwyn cludo'r cyffuriau i Wrecsam. Pan atafaelwyd un cerbyd gan yr heddlu, canfuwyd cilogram o gocên ynddo.
Casglwyd dros £70,000 o arian parod hefyd fel rhan o'r ymgyrch, gan gynnwys £30,000 mewn cerbyd arall a oedd wedi'i addasu.
Yn ystod un o 15 gwarant chwilio a gynhaliwyd, nododd llyfr cyfrifon a gasglwyd o un o'r eiddo drosiant misol o £1.2 miliwn.
Nododd llyfr cyfrifon arall a gasglwyd o un o'r cerbydau a atafaelwyd fod dros £4.8 miliwn gwerth o gyffuriau wedi'u gwerthu rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Chwefror 2022.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Mark Hughes, yr Uwch Swyddog Ymchwilio: "Mae canlyniad heddiw yn dystiolaeth o waith caled ac ymrwymiad y swyddogion i gyd ac mae'n anfon neges gref nad ydym yn goddef gwerthu cyffuriau yn ein cymunedau.
"Roedd nifer y cyffuriau a atafaelwyd o'r gang soffistigedig hwn fel rhan o Ymgyrch Blue Cashel yn un o'r casgliadau mwyaf a atafaelwyd erioed yng Ngogledd Cymru.
"Bu cynllunio a threfnu mawr i'r ymgyrch ac roedd y gwobrau er mwyn cael y gang yn uchel iawn.
"Byddwn yn dal y rhai hynny sy'n meddwl bod Gogledd Cymru yn darged hawdd i gyflenwi cyffuriau a byddwn yn parhau i frwydro yn erbyn y troseddau hyn sy'n cael effaith mor andwyol ar fywydau pobl.
"Byddwn yn erlid unrhyw un sy'n torri'r gyfraith ac yn dal mantais o bobl bregus er eu lles eu hunain a byddwn yn parhau i geisio gwneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld yn y DU."
Rhoddwyd y dedfrydau canlynol:
Lee Cole, 42, o Beetham Tower, Old Hall Street, Lerpwl - Cynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B - 11 mlynedd, 3 mis.
Anthony Preston, 45, of Leopold Road, Kensington, Lerpwl - Cynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B - 13 mlynedd, 1 mis.
Mathew McGrath, 28, o Access Road, Lerpwl - Cynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B a meddu ar gyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B gyda'r bwriad o gyflenwi - 11 mlynedd, 3 mis.
Kenneth Houghton, 35, o Auburn Road, Lerpwl - Cynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B - 10 mlynedd, 2 fis.
Mwy ar Ymgyrch Blue Cashel yma - Dedfrydu gang troseddau trefnedig a gynllwyniodd i smyglo llawer iawn o gyffuriau i Wrecsam | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)