Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Carcharwyd cyn-arweinydd ieuenctid 73 oed heddiw am fwy na 10 mlynedd am droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn dau fachgen ifanc.
Ymddangosodd Paul James Vaughan o Emlyn Grove, y Rhyl yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw yn dilyn dedfryd am nifer o droseddau yn dyddio o 1977 i 1984 yn ystod ei gyfnod fel arweinydd ieuenctid yn y Rhyl.
Plediodd yn euog i ddau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ddau fachgen a dau gyhuddiad o ymddygiad anweddus gyda phlentyn.
Dedfrydwyd Vaughan i gyfanswm o ddeng mlynedd a chwe mis o garchar a rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am oes. Cafodd hefyd ei wahardd rhag gweithio gyda phlant neu oedolion am gyfnod amhenodol.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio, Ditectif Gwnstabl Gemma Smith: “Mae Paul Vaughan yn ddyn peryglus a wnaeth ddefnyddio ei safle o ymddiriedaeth i gam-drin bechgyn ifanc yn ei ofal.
"Mae cam-drin rhywiol yn niweidiol iawn ac yn cael effaith andwyol ar y plant sy'n parhau i ddioddef drwy gydol eu bywydau.
“Dw i'n cymeradwyo dewrder y dioddefwyr sydd wedi siarad allan ar ôl 40 blynedd. Maent wedi dangos dewrder a nerth drwyddi draw. Gobeithio y byddant yn gallu canolbwyntio ar symud ymlaen gyda'u bywydau gan wybod bod yr un a wnaeth eu cam-drin nawr yn talu am ei droseddau.
“Rwyf yn annog pawb sydd wedi cael eu cam-drin i ddod ymlaen gan wybod y byddwn yn gwneud popeth i erlid troseddwyr a diogelu pobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas."
Gallwch ymweld â'n gwefan yma i gael rhagor o wybodaeth am sut i ofyn am gymorth a chefnogaeth - Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)