Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daeth disgyblion o Ysgol Bryn Gwalia ac Ysgol Gynradd Westwood at ei gilydd ar gyfer seremoni wobrwyo diwedd blwyddyn er mwyn dathlu eu gwaith caled yn ystod Rhaglen yr Heddlu Bach.
Drwy gydol y flwyddyn ysgol, mae disgyblion o'r ddwy ysgol wedi cymryd rhan yn y rhaglen sy'n anelu creu cysylltiadau cadarnhaol rhwng Heddlu Gogledd Cymru ac aelodau ifanc o'r gymuned.
Mae'r plant wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau niferus gan gynnwys patrolau troed gyda SCCH, codi sbwriel, llunio posteri er mwyn cynorthwyo atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, cynorthwyo gyda gorymdeithiau Diwrnod y Cofio a sesiynau ystafell ddosbarth yn canolbwyntio ar faterion yn eu heffeithio nhw yn eu cymuned fel ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Yn y seremoni diwedd blwyddyn, cyflwynwyd bob disgybl gyda thystysgrif er mwyn dynodi eu bod wedi cwblhau'r rhaglen. Cawsant hefyd ymweliad gan Vega y ci heddlu o dan hyfforddiant a'i driniwr PC Edwards a PC Ellis o'r Uned Plismona Ffyrdd a siaradodd am eu rolau. Daeth tîm Aura Cymru am brynhawn o weithgareddau creu tîm hwyliog hefyd!
Dywedodd y Rhingyll Kerry Nash o'r Tîm Plismona Cymdogaethau: "Hoffwn ddweud fy mod yn edmygu agwedd lawen holl blant y rhaglen. Mae'r problemau wnaethant eu nodi o fewn eu cymunedau a'r syniadau wnaethant eu cyflwyno er mwyn eu datrys wedi bod yn drawiadol iawn.
Rydym yn falch iawn o'u hymdrechion. Maent wedi bod yn gaffaeliad i'w rhieni, eu hysgolion a'u cymunedau."
Mae Rhaglen yr Heddlu Bach wedi bod yn bosibl diolch i gyllid gan Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT). Mae'n elusen diogelwch cymunedol sy'n cynorthwyo mentrau cymunedol sy'n annog amgylchfyd mwy diogel i bobl Gogledd Cymru.
Dywedodd Dave Evans, Rheolwr Prosiect PACT: "Rydym yn falch o allu cynorthwyo SCCH Rachael Duddle a Connor Freel a'u tîm Heddlu Bach. Mae'n wych gweld pobl ifanc cyn cymryd rhan yn eu cymunedau a gwneud cymaint o waith cadarnhaol."