Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 32 oed wedi'i garcharu am lu o droseddau cyffuriau.
Ymddangosodd Damien Richard Burt o Dan y Bryn, Bwcle ger bron Llys y Goron yr Wyddgrug ar ddydd Mercher 19 Gorffennaf, ar ôl pledio'n euog i dri achos o feddu gyda bwriad i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A ac un achos o fod ynghylch cyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Derbyniodd ddedfryd o dair blynedd a phedwar mis yn y carchar.
Dywedodd y Prif Arolygydd Emma Parry: "Rwyf yn hynod falch o dîm De Sir y Fflint, o dan arweiniad yr Arolygydd Iwan Jones, am y gwaith caled, dycnwch ac ymroddiad sydd wedi mynd i greu achos argyhoeddiadol i'w gyflwyno i'r llys, sydd yn amlwg wedi talu ar ei ganfed.
"Fodd bynnag, nid yn unig mae'r canlyniad hwn yn dystiolaeth o waith caled ac ymroddiad y swyddogion, ond hefyd y cymorth rydym yn eu derbyn gan y cyhoedd sy'n cynorthwyo'n fawr wrth ymdrin â'r drosedd hon sydd yn cael cymaint o effaith niweidiol ar fywydau pobl.
"Nid ydym yn goddef defnyddio cyffuriau anghyfreithlon o gwbl o fewn ein cymuned. Rydym yn gobeithio bydd y ddedfryd hon yn anfon neges gref y gwnawn barhau ymlid unrhyw un sy'n bwriadu cymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol.
"Buaswn yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth ynghylch pwy sy'n cyflenwi neu'n gwerthu cyffuriau yn eu hardal i gysylltu â ni fel y gallwn weithredu. Gwnawn barhau ceisio gwneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld yn y DU."