Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dathlwyd disgyblion blwyddyn pump o Ysgol Llanfawr ac Ysgol Cybi yng Nghaergybi'r wythnos ddiwethaf am ddarfod rhaglen yr Heddlu Bach.
Mae'r rhaglen, sy'n cael ei chynnal mewn ysgolion amrywiol ledled Gogledd Cymru, yn anelu creu cysylltiadau cadarnhaol rhwng pobl ifanc y gymuned, ynghyd â dysgu pobl ifanc am bwysigrwydd balchder cymunedol.
Mae'r Heddlu Bach bellach wedi dod i ddiwedd eu dyletswyddau yn dilyn eu gwaith caled drwy gydol y flwyddyn ysgol. Cwblhawyd prosiectau cymunedol, codi sbwriel, gwirio cyflymder, patrolau amlwg iawn ac ymgysylltiadau lleol.
Mewn seremoni diwedd blwyddyn, cyflwynwyd tystysgrif gwasanaeth i bob disgybl gan yr Uwcharolygydd Llinos Davies a'r Arolygydd Gareth Parry am lwyddo cwblhau rhaglen yr Heddlu Bach.
Dywedodd PC Lisa Thomas: "Mae swyddogion yr Heddlu Bach wedi gweithio'n galed eleni er mwyn cynorthwyo ein cymuned leol ac maent wedi bod yn gwbl wych ac yn gaffaeliad i'n tref.
"Rwyf yn diolch i ysgolion am eu hymgysylltiad ac yn dymuno'r gorau oll i'r disgyblion wrth iddynt barhau gyda'u haddysg.
"Os hoffech weld yr Heddlu Bach am y tro olaf un, byddant yng ngorymdaith Gŵyl Caergybi ar 29 Gorffennaf. Byddwn yn edrych ymlaen at ei gweld."