Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddog heddlu a SCCH arbennig wedi cael yr orchwyl o ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Yn dilyn pryderon diweddar ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol gydag ieuenctid, bydd swyddog a SCCH ymroddedig yn targedu llecynnau yn Llandudno a'r cyffiniau.
Bydd y swyddogion yn cynnal patrolau ar droed amlwg iawn er mwyn siarad â phobl ifanc ac ymateb i unrhyw adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Gorllewin Conwy.
Bydd y swyddogion yn mynychu cyfarfodydd ymgysylltu ag ieuenctid gyda chlybiau ieuenctid lleol er mwyn siarad â phobl ifanc. Gweithir hefyd ag asiantaethau partner er mwyn ymdrin ag unrhyw faterion sy'n codi ar y cyd.
Dywedodd yr Arolygydd Dros Dro Catherine Walker: "Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn niweidio pawb sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal.
"Rydym wedi ymrwymo gweithio gydag asiantaethau partner ac aelodau o'r gymuned er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad annerbyniol. Buaswn yn annog unrhyw un â phryderon i gysylltu â ni fel y gallwn ymdrin â nhw'n briodol."
Os oes gennych bryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal, cysylltwch â ni drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101.