Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymuno ag ymgyrch genedlaethol er mwyn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chadw pobl ledled y rhanbarth yn ddiogel.
Gan redeg rhwng 3 a 9 Gorffennaf, mae Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2023 yn anelu annog cymunedau wrthsefyll Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac amlygu'r gweithrediadau a ellir eu cymryd gan y rhai hynny sy'n ei brofi.
Wedi'i drefnu gan Resolve, prif sefydliad Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a diogelwch cymunedol y DU, mae'r wythnos yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau ledled y DU sy'n cynnwys cynghorau, heddluoedd, cymdeithasau tai, elusennau, grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon.
Yr wythnos hon, bydd amrywiaeth o rannu cyhoeddiadau ymwybyddiaeth ledled ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn er mwyn codi ymwybyddiaeth o ran sut i hysbysu am ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r hyn i'w wneud os ydynt yn dioddef.
Ymgymerir â phatrolau ychwanegol ar draws llecynnau sy'n peri pryder. Defnyddir dronau'r heddlu a bydd ein Swyddogion Cymuned Ysgolion yr Heddlu yn siarad â disgyblion hefyd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y rhanbarth er mwyn cynorthwyo codi ymwybyddiaeth.
Canfu ymchwil diweddar gan YouGov a gomisiynwyd gan Resolve fod bron i 1 mewn 5 o bobl wedi gorfod symud cartref oherwydd yr effaith roedd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei gael arnyn nhw. Mae 1 mewn 10 wedi symud. Er hyn, ni wnaeth dros hanner o'r bobl a holwyd a oedd un ai wedi dioddef neu wedi gweld ymddygiad gwrthgymdeithasol hysbysu am yr ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog aelodau'r cyhoedd i beidio dioddef yn dawel os ydynt yn dioddef Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Gellir hysbysu'r tîm ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y Cyngor lleol neu'r Heddlu am ddigwyddiadau os ydy pobl yn teimlo eu bod mewn risg uniongyrchol neu mewn perygl.
Dywedodd y Prif Arolygydd Siobhan Edwards o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn falch o gadarnhau'r ymgyrch genedlaethol eto eleni. Yr wythnos hon byddwn yn ychwanegu at y gwaith rydym yn ei wneud bob dydd o fewn ein cymunedau er mwyn ymdrin â'r ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Gwnawn barhau i gydweithredu gyda phartneriaid lleol gydag ymdrech ar y cyd i syrthio'n drwm ar y broblem sy'n bla ar gymunedau ac sy'n aml yn gadael dioddefwyr yn ddiymgeledd ac anobeithiol. Byddwn hefyd yn amlygu'r opsiynau sydd ar gael i'r bobl hynny sydd wedi neu sydd yn cael eu heffeithio gan ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Mae ein cymunedau'n adnodd hanfodol i'n cynorthwyo ni nodi ac ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Buaswn yn annog unrhyw un sy'n ei brofi i hysbysu amdano. Drwy hysbysu am ddigwyddiad neu unrhyw bryderon, rydych yn cynorthwyo gwneud eich cymuned yn lle gwell i bawb."
Ychwanegodd Rebecca Bryant OBE, Prif Weithredwr Resolve: "Nid ydy ymddygiad gwrthgymdeithasol yn drosedd lefel isel. Gall gael effaith ddinistriol a hirhoedlog ar fywydau dioddefwyr a chymunedau a gall ragflaenu trosedd mwy difrifol.
"Mae'n bwysig fod her ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau i gael y flaenoriaeth mae ei angen fel bod pobl ym mhobman yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi a'u cymunedau.
"Rydym yn falch fod Heddlu Gogledd Cymru yn cefnogi’r ymgyrch hynod bwysig hon. Mae'n hanfodol datblygu partneriaethau ledled cymunedau er mwyn ymdrin gyda'r heriau cynyddol ynghylch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol."
Am fwy o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - ewch ar www.resolveuk.org.uk
Os ydy unrhyw un yn dymuno hysbysu am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein sgwrs fyw, porth ar-lein neu drwy ffonio 101. Gellir mynd ar ein llwyfan ar-lein drwy Ymddygiad gwrthgymdeithasol | Heddlu Gogledd Cymru
Fel arall, gallwch roi gwybodaeth yn anhysbys i'r elusen annibynnol Crimestoppers drwy eu gwefan Cymru – Cymuned | Crimestoppers (crimestoppers-uk.org) neu drwy ffonio 0800 555 111.
Nodiadau i olygyddion: