Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae deg aelod o gang gyffuriau wedi'u dedfrydu i gyfanswm o 39 flynyddoedd a 6 mis yn y carchar.
Carcharwyd wyth yn Llys y Goron Caernarfon heddiw am fasnachu pobl a chyflenwi heroin a chocên.
Rhestrir manylion pawb oedd yn gysylltiedig isod ynghyd a'u dedfrydau priodol.
Yng nghanol eu troseddu oedd plentyn 14 oed, ar goll o'i gartref, a fasnachwyd ledled y Gogledd Orllewin cyn cael ei adael yn y Rhyl, ardal nad oedd ganddo gysylltiad â hi. Mae'r plentyn bellach yn cael ei ddiogelu.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Simon Williams, Pennaeth yr Uned Gwarchod Pobl Fregus: "Mae'r achos hwn yn nodi newid nodedig yn ein hymdriniaeth gan fod y plentyn a oedd yn gwerthu cyffuriau ar ran y grŵp yn cael ei drin fel dioddefwr, nid troseddwr, gan ei bod yn amlwg ei fod yn cael ei gamfanteisio a'i fod mewn perygl. Y gwahaniaeth mawr arall ydy fod rhai o'r grŵp wedi'u cyhuddo o fasnachu pobl ynghyd ac am droseddau cyffuriau, ac roedd hynny'n sioc iddynt.
"Cafodd y plentyn bregus hwn ei fasnachu ledled y Gogledd Orllewin. Roedd ar orchymyn y troseddwyr hyn, yn gwerthu cyffuriau ar eu rhan. Roedd y risgiau a'r camfanteisio'n anferthol.
"Ein neges glir i'r rhai sy'n defnyddio plant fel hyn ydy y gwnawn ni, ynghyd â phartneriaid, eich ymlid chi'n ddiwyro a dod â chi o flaen eich gwell. Mae hynny er, fel yn yr achos hwn, nad oes gennym ddioddefwr sy'n barod i sefyll i fyny mewn llys. Fe wnawn ganolbwyntio ar bob cyfle i gasglu tystiolaeth o bob ffynhonnell sydd ar gael.
"I bobl ifanc sy'n cael eu dal mewn Llinellau Cyffuriau a'u rhieni neu ofalwyr, ein blaenoriaeth ydy diogelu plant ac ymlid y rhai hynny sy'n eu camfanteisio. Rwyf yn sylweddoli y gall fod yn gam anodd dod yn rhydd o'r sefyllfa, ond dylech fod yn hyderus y gwnawn eich cynorthwyo a'ch diogelu chi.
"Mae caethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn digwydd o flaen ein llygaid, yn effeithio ar y mwyaf bregus. Gall fod yn digwydd ar eich stryd. Dysgwch sut i adnabod yr arwyddion. Mae'r cyhoedd yn allweddol i gynorthwyo adnabod y drosedd hon.
"Fy ngobaith ydy bod y rhai sydd ynghlwm yn y math hwn o droseddu yn meddwl eto am yr hyn maent yn ei wneud. Mae'r achos hwn yn amlygu'r ymdriniaeth y gwnawn barhau i'w chymryd er mwyn llwyddo erlyn y rhai hynny sy'n ymwneud a chamfanteisio o'r fath. Mae'n rhoi glasbrint i erlyn a rheoli troseddwyr ar ôl cael eu rhyddhau drwy orchmynion cysylltiedig."