Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiwyd chwech dyn yn dilyn digwyddiadau cyn gem y Vanarama National League yn ardal Ashton Road West yn Oldham, Manceinion ar 1 Hydref.
Mae'r dynion yn hanu o ardal Wrecsam rhwng 29 a 55 oed ac wedi cael eu harestio am nifer o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cynorthwyo Heddlu Manceinion Fwyaf yn arestio rhai o'r dynion a fu'n rhan o'r aflonyddwch.
Cafodd y dynion eu holi a'u rhyddhau ar fechnïaeth ar amodau llym tra bod yr ymchwiliad yn parhau ynghyd â dyn arall a gafodd ei arestio nôl ym mis Tachwedd.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Mark Williams: "Mae clwb Pêl-droed Wrecsam yn ganolbwynt ein cymuned. Mae'r tîm ar hyn o bryd yn mwynhau llwyddiant yn y gynghrair ac yn nghwpan yr FA.
“Mae'r awyrgylch deuluol ar y cae ras gystal ag erioed, ac mae'r holl ddinas yn falch o'u llwyddiant.
"Mae rhai unigolion yn benderfynol o beri gofid drwy eu hymddygiad treisgar tuag at gefnogwyr y tîm arall a hyd yn oed cefnogwyr eu clwb eu hunain ar adegau.
"Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio yn agos gyda'r clwb pêl-droed a'r gymuned leol i gael gwared â'r ymddygiad hwn ar ddiwrnodau gêm.
“Ni fydd y dynion hyn yn cael mynd i gemau yn y dyfodol oherwydd amodau'r fechnïaeth ac os byddant yn cael eu herlyn gallant wynebu gwaharddiad am amser hir.
"Gallai'r 'cefnogwyr' honedig hyn fethu gweddill y tymor gan y bydd disgwyl iddynt gadw draw oddi wrth y Cae Ras ar ddyddiau gêm a chael eu gwahardd rhag mynd i gemau oddi cartref hefyd."
Ychwanegodd Fleur Robinson, PSG CPDC Wrecsam: "Rydym yn edrych ymlaen at ddiwrnod cofiadwy i'n Clwb Pêl-droed ar ddydd Sul, gyda'r Cae Ras dan ei sang unwaith eto.
“Fel y gwelwyd drwy'r tymor, mae ein cefnogwyr balch yn ein cefnogi ni pan fyddwn gartref neu oddi cartref.
“Serch hynny, mae lleiafrif bach yn defnyddio gemau CP Wrecsam i greu anhrefn a rhoi enw drwg i'r cefnogwyr, ac fel y nodwyd eisoes nid oes lle i'r bobl hyn yn ein clwb pêl-droed ni.
“Diolch i Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Manceinion Fwyaf am eu gwaith yn gwneud yr arestiadau hyn yn dilyn y gêm fis Hydref. Byddwn yn parhau i weithio yn agos gydag HGC i sicrhau bod gemau CP Wrecsam yn parhau i fod yn achlysuron i bawb eu mwynhau yn enwedig ein cefnogwyr triw."
Ychwanegodd yr Arolygydd Williams: “Fel pennaeth yr heddlu ar gyfer gêm yr FA ar ddydd Sul, hoffwn ddymuno pob lwc i'r tîm a gobeithio y bydd gwir gefnogwyr y clwb yn gallu mwynhau'r gêm yn ddiogel.
“Gobeithio y bydd unrhyw un sydd am greu anhrefn yn deall na fydd y clwb na'r heddlu yn dioddef unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol neu dreisgar. Bydd unrhyw un sy'n euog o'r troseddau hyn yn cael eu herlyn a'u gwahardd rhag mynd i gemau yn y dyfodol."