Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd a gynhaliwyd fel rhan o Wythnos Genedlaethol Plismona Cymdogaethau wedi datgelu nifer o droseddau a diffygion ar gerbydau.
Ddoe (dydd Llun), bu swyddogion o’r Uned Plismona Ffyrdd yn stopio a siarad â sawl modurwr yn ardaloedd Gaerwen, Bangor, Dinbych a Rhuthun fel rhan o’u hymdrechion parhaol i ddiogelu’r ffyrdd.
Yn ystod y diwrnod gwnaeth swyddogion ddod ar draws nifer o droseddau gan gynnwys:
Dywedodd PC Arfon Williams o’r Uned Plismona Ffyrdd: “Drwy gydol y flwyddyn rydym yn sgwrsio hefo modurwyr a defnyddwyr eraill y ffyrdd er mwyn ceisio lleihau’r nifer sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y ffyrdd. Ein blaenoriaeth ni yw diogelu pawb ar y ffyrdd.
“Mae’r rhan helaeth o fodurwyr yn ddefnyddwyr ffyrdd diogel a chymwys, ond mae’n bwysig ein bod ni’n targedu’r rhai sy’n peryglu bywydau.
“Mae canlyniadau ddoe yn dweud y cyfan. Mae’n arswydus fod lleiafrif yn gyrru hefo cerbydau sydd yn cario llwythi anniogel, hefo teiars diffygiol ac sy’n gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol.
“Yn llawer rhy aml rydym yn gweld yr effaith ddinistriol mae gwrthdrawiadau difrifol ac angheuol yn ei gael. Gall bywyd newid mewn eiliad oherwydd penderfyniad anghywir neu eiliad o beidio â chanolbwyntio. Fel gyrwyr mae gan bawb gyfrifoldeb dros ddiogelu’r ffyrdd i bawb.
Fe ychwanegodd: “Bob dydd mae swyddogion ar draws yr heddlu – o’r Uned Plismona Ffyrdd i Dimau Plismona Cymdogaethau a’r Heddlu Gwirfoddol yn cynnal gweithgareddau tebyg i hyn ar y ffyrdd. Mae hyn yn ychwanegol at y plismona ffyrdd arferol sy’n digwydd 365 diwrnod y flwyddyn. Bydd gwiriadau fel hyn yn parhau er mwyn diogelu ffyrdd Gogledd Cymru.”
Roedd PC Llinos Jones o Dîm Plismona Cymdogaethau Dolgellau yn gweithio hefo’r Uned Plismona Ffyrdd ddoe. Dywedodd: “Mae Timau Plismona Cymdogaethau ar draws y rhanbarth yn aml yn ymateb i bryderon gan y gymuned. Mae’r rhain yn cynnwys pryderon megis problemau diogelwch y ffyrdd. Mae cynnal y math yma o ymgyrch gyda’n cydweithwyr o’r Uned Plismona Ffyrdd yn dangos ein bod ni’n gwrando a’n bod ni’n benderfynol o ddiogelu’r cyhoedd. Drwy barhau i gydweithio fe allwn ni sicrhau fod Gogledd Cymru yn parhau i fod yn ardal ddiogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi.”
Mae swyddogion yn parhau i erfyn ar bawb sicrhau fod eu cerbydau yn ddiogel a chynnal gwiriadau ar deiars a goleuadau cyn cychwyn ar eu taith.
Mae gan Heddlu Gogledd Cymru strategaeth lem o ran erlyn y troseddau ‘5 Angheuol’ sef goryrru, gyrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, gyrru’n beryglus, gyrru heb wisgo gwregys diogelwch a gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am unrhyw un sydd yn troseddu ar y ffordd, cysylltwch â swyddogion ar y wefan neu drwy ffonio 101, neu gallwch ffonio Crimestoppers yn ddi enw ar 0800 555 111.
Gall defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol ddilyn yr hashnod #5Angheuol.