Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH) wedi’i rhoi ar y rhestr fer am wobr dewrder genedlaethol.
Roedd SCCH Helen Holden y cyntaf yn y fan a'r lle mewn clwyfo difrifol ddigwyddodd mewn siop yn Wrecsam. Gwnaeth ei gweithredu sydyn achub bywyd y dioddefwr ac arwain at arestio'r troseddwr yn ddiweddarach.
Mae ei phroffesiynoldeb wedi'i gydnabod fel rhan o ddigwyddiad cenedlaethol a gynhaliwyd gan UNSAIN a Chyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu (CCPSH) er mwyn dathlu 20 mlynedd o SCCH a'r cyfraniad maent yn ei wneud i blismona.
Digwyddodd hyn pan oedd Helen ar ddyletswydd yn Wrecsam ym mis Medi 2020. Daeth yn ymwybodol o glwyfo difrifol lle'r oedd merch ifanc wedi cael ei slaesio gyda chyllell dwca tra roedd hi allan yn siopa gyda ffrind.
Fe ruthrodd Helen i'r siop Sports Direct a hi oedd y cyntaf yn y fan a'r lle. Rhoddodd gymorth cyntaf achub bywyd ar unwaith i'r claf ac roedd hefyd yn gallu cael enw'r troseddwr. Arweiniodd hyn ato'n cael ei arestio gan swyddogion Drylliau Tanio yn fuan wedyn.
Fe wnaeth y dioddefwr gael adferiad llwyr. Ym mis Ionawr 2021, dedfrydwyd y troseddwr i chwe blynedd o garchar a chyfnod estynedig o dair blynedd ychwanegol ar drwydded.
Ym mis Ionawr 2023, rhoddwyd Helen ar restr fer am wobr dewrder genedlaethol mewn digwyddiad yn Llundain. Yn gwmni i Helen yn y gwobrau oedd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd: "Roedd yn fraint wirioneddol i mi fynd i'r gwobrau SCCH cenedlaethol gyda Helen. Roedd Helen yn ddewr a phroffesiynol wrth roi cymorth cyntaf achub bywyd a rheoli man a lle a oedd yn draed moch. Heb ei hymdrechion hi, ni fyddem wedi gallu dod o hyd i'r troseddwr mor gyflym. Rydym i gyd yn falch o Helen ac mae'n llwyr haeddu'r gydnabyddiaeth."
Dywedodd Helen: "Nid yw'r cyhoedd yn gweld y llawer o waith mae SCCH yn ei wneud. Felly roedd yn gweld cymaint o gydweithwyr sy'n SCCH yn derbyn y gydnabyddiaeth maent yn ei haeddu.
“Er na wnes i ennill y categori, rwyf yn teimlo'n hynod ddiolchgar o gael fy enwebu ac o fod wedi cael y cyfle i rannu'r noson gyda chydweithwyr ledled y wlad."