Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dewch i gwrdd ag Arolygydd Wrecsam Wledig, Matt Subacchi a'i Rhingyll Cynorthwyol, Sophie Ho.
Mae'r ddau yn siarad Cymraeg, ac mae'r ddau yn rhai o'r swyddogion ieuengaf i arwain eu hardal. Dechreuodd y ddau yn eu swyddi'r mis hwn, gan olynu'r Arolygydd Gavin Gilmore a'i gyn-Arolygydd Cynorthwyol, Geraint Richards.
Mae Arolygydd Subacchi o Wrecsam wedi gweithio mewn nifer o feysydd o fewn yr heddlu ac yn ddiweddar fel Arolygydd gyda Thîm Rhwystro'r Heddlu a'r Uned Dronau.
Ymunodd y gŵr 36 oed yr heddlu yn 2009 fel swyddog yn ninas Wrecsam ac ar ôl dwy flynedd symudodd i unedau amrywiol yn targedu'r troseddwyr sy'n creu'r niwed mwyaf i'r gymuned.
Yn 2016 daeth yn Rhingyll cyn symud i Ogledd Sir y Fflint fel Rhingyll Cynorthwyol yn 2020 am 12 mis.
Mae'n dad i ddau o blant ac mae ei wraig a'i chwaer hefyd yn gweithio i'r heddlu. Dywedodd: “Ro'n i'n gwybod erioed fy mod i am ddychwelyd i blismona lleol, dyna lle dw i wedi bod yn ystod y rhan fwyaf o fy ngyrfa.
“Dw i'n fachgen lleol sy'n dod o deulu sydd yn byw ac yn gweithio yn y gymuned. Mae rhai o fy nheulu yn gweithio fel cynghorwyr cymunedol, mae un yn ynad heddwch ac un arall yn athrawes.
Mae'r heddlu'n gwarchod pobl ac eiddo, ac yn gwneud cymdogaethau'n fannau mwy diogel i fyw a gweithio ynddynt. Mae'r lle dw i'n gweithio ynddo yn bwysig iawn i mi."
Wrth sôn am ei gynlluniau ar gyfer Wrecsam Wledig sy'n cynnwys pob cymuned yn y sir y tu allan i'r ddinas dywed Arolygydd Subacchi y bydd yn canolbwyntio, gyda chymorth Rhingyll Ho ar atal troseddau a gwneud y strydoedd yn fwy diogel.
"Ein ffocws yw gwneud ein cymunedau yn fwy diogel ac i leihau troseddau", ychwanegodd. "Byddwn yn ceisio gwneud y strydoedd yn fwy diogel heddiw nag oeddent ddoe.
“Fy slogan yw ‘mae safonau'n bwysig' – mae'n bwysig i ni sut y mae swyddogion yn siarad â phobl, sut yr ydym yn edrych, sut yr ydym yn trin dioddefwyr a'r rhai o dan amheuaeth.
“Ond yn y pen draw, mae'r safonau mewn trefn i ni leihau troseddau ac i wneud hynny, mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol."
Mae Rhingyll Ho, sy'n briod â swyddog arall yn yr Heddlu yn dod o Gorton, Manceinion yn wreiddiol. Symudodd i Sir y Fflint yn 6 oed a dechreuodd ddysgu Cymraeg.
Daw o deulu o labrwyr ac mae'n gyn-ddisgybl o Ysgol Glan Clwyd. Mae'n 29 oed a hi yw'r cyntaf yn ei theulu i fod yn swyddog heddlu.
“Cyn i mi ymuno â'r heddlu roeddwn i'n meddwl am fod yn gyfreithiwr ond sylweddolais y byddai'n rhaid i mi o bosib amddiffyn pobl ddrwg" meddai.
"Pan ofynnais i fy hun a fuaswn i'n medru gwneud hynny, yr ateb oedd na, a dyna pryd penderfynais ymuno â'r heddlu.
“Mae'n swydd sy'n gwneud gwahaniaeth, chi yw'r un sy'n edrych ar ôl pobl - fy nod yw gwneud i bobl deimlo'n ddiogel ac mae bod yn swyddog yn diwallu hynny."
Mae Rhingyll Ho hefyd yn astudio rhan-amser am radd mewn Troseddeg a Seicoleg mewn ymgyrch i ychwanegu ei sgiliau.
“Mae'n her a dw i'n hoffi cadw'n brysur" dwedodd.
Mae wedi gweithio mewn nifer o feysydd o fewn yr heddlu ac yn ddiweddar fel bu’n gweithio fel Rhingyll yn ardal Wrecsam Wledig.
Yn 2012 ymunodd Rhingyll Ho â’r ystafell reoli fel rhan o'r Tîm Cymorth Ymchwiliadau, cyn dod yn swyddog heddlu yn ninas Wrecsam y flwyddyn ganlynol.
Yn 2016 gweithiodd fel rhan o'r Tîm Gorchwyl Gweithredu cyn ymuno â CID y flwyddyn ganlynol gan weithio dros bob ardal yn y dwyrain gan ganolbwyntio ar droseddau yn seiliedig ar anrhydedd. Yn 2019, dychwelodd Rhingyll Ho i ddinas Wrecsam fel swyddog ymateb cyn symud i ardal Wrecsam Wledig ym 2020.
Dywedodd: “Daw fy ngweledigaeth o gefndir CID felly fy ffocws yn y rôl hon yw cael canlyniadau i bobl yn y llys.
"Mae hefyd yn bwysig i ni fod pobl yn teimlo'n ddiogel. Pan fydd pobl yn ein galw ni, rydym am iddynt wybod na fyddwn ni'n eu gadael nhw i lawr ac y byddwn yn mynd y filltir ychwanegol. Nid oes dim yn rhy anodd i ni wneud i'r cyhoedd. I mi, dyna pam ymunais â'r heddlu."