Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Unwaith yn rhagor, mae'r dyddiau diwethaf wedi gweld plismona'n cael sylw'r cyfryngau cenedlaethol, ac unwaith yn rhagor am y rhesymau anghywir.
Roedd troseddau David Carrick yn ffiaidd a brawychus. Yr hyn oedd yn waeth oedd ei fod mewn swydd lle'r oedd pobl yn ymddiried ynddo pan oedd yn troseddu fel hyn.
Rwyf yn meddwl am y dioddefwyr dewr a ddangosodd y cryfder mwyaf wrth hysbysu am y troseddau hyn ynghyd a dioddef y posibilrwydd o fod ynghlwm ag achos amlwg iawn.
Ar yr un pryd, mae'n bwysig cofio mai sgil a phroffesiynoldeb cydweithwyr yn Swydd Hertford a sicrhaodd fod Carrick yn dod o flaen ei well.
Mae effaith ddinistriol troseddau Carrick yn mynd ymhell tu hwnt i'r Gwasanaeth Heddlu Metropolitan ac wedi rhoi sylw cyhoeddus unwaith eto ar blismona ledled y DU.
Mae llawer o bethau i ymfalchïo ynddynt yng Ngogledd Cymru. Mae gennym swyddogion a staff sgilgar ymroddedig sy'n mynd yr ail filltir bob dydd er mwyn cadw ein cymunedau'n ddiogel. Rwyf yn credu fod y mwyafrif llethol ohonynt yn onest, yn ddiwyd ac yn gwbl ddibynadwy. Rwyf yn gwybod eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau gyda'r proffesiynoldeb mwyaf ac yn ymroi i wasanaethu ein cymunedau.
Rydym wedi gweithio'n galed er mwyn creu amgylchfyd lle mae pobl yn gwybod y safonau ymddygiad sydd i'w ddisgwyl ganddynt ar ddyletswydd ac oddi ar ddyletswydd. Mae gennym systemau cyfrinachol mewn lle i bobl hysbysu am unrhyw bryderon.
Fodd bynnag, fel heddlu rydym ninnau wedi profi camymddygiad. Mae achosion llys a gwrandawiadau camymddwyn mewnol o ran gweithwyr o'm heddlu i wedi bod eisoes eleni, wrth i ni sicrhau ein bod yn cael gwared ar unrhyw ymddygiad o ragfarn yn erbyn merched ac ymddygiad rheibus sy'n bodoli yn niwylliant yr heddlu.
Rydym yn parhau i ymrwymo at sicrhau fod ein systemau'n effeithiol wrth ddiswyddo swyddogion sydd, yn syml, ddim yn addas i wisgo'r lifrai. Bwriedir buddsoddi er mwyn cryfhau uned fetio'r Heddlu. Mae hyn ar ben dau swyddog heddlu arall ar gyfer ein Hadran Safonau Proffesiynol er mwyn cynorthwyo ein cymhelliant am y safonau sefydliadol uchaf.
Mae'r Ysgrifennydd Cartref hefyd wedi lansio adolygiad mewnol i ddiswyddiadau'r heddlu. Mae hyn er mwyn sicrhau fod y system yn effeithiol wrth ddiswyddo swyddogion sy'n bradychu'r safonau sydd i'w ddisgwyl mewn plismona.
Rwyf yn credu'n gryf y gwnaiff yr adolygiadau hyn adfer hyder ein cymunedau a fydd yn gwybod fod y gofal mwyaf trwyadl wedi'i gymryd. Mae hyn er mwyn sicrhau eu bod yn gallu ymddiried yn unrhyw un sy'n gwisgo'r lifrai unwaith eto.