Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:27 02/02/2023
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dda am atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae pobl yn derbyn ymateb da gan yr heddlu yn ôl adroddiad i'w effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfreithlondeb a gyhoeddwyd heddiw.
Canfu'r arolwg HMICFRS a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2022 fod yr heddlu'n dda ar ymateb i'r cyhoedd ac mae'n ceisio barn cymunedau lleol er mwyn deall yr hyn sy'n bwysig iddynt. Fe'i haseswyd yn dda hefyd am ymlid troseddwyr risg uchel a nodi pobl fregus, er fe ystyriwyd y byddai rhai ardaloedd yn elwa o allu digidol gwell.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman: "Ein gweledigaeth yw bod y lle mwyaf diogel yn wlad i fyw, gweithio ac ymweld ag o. Mewn rhai meysydd trosedd, mae gennym ymysg y lefelau trosedd isaf yn genedlaethol. Rydym yn falch fod yr HMICFRS wedi nodi ein bod yn dda am atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gyda rhai arsylwadau cadarnhaol am sut rydym yn datrys problemau mewn cymunedau. Mae cyfyngu ar drosedd a dod â throseddwyr o flaen eu gwell yn hynod bwysig i ni.
"Rydym hefyd yn falch fod ein hymateb i'r cyhoedd wedi'i nodi fel da. Mae'r cyhoedd eisiau gwybod pan maent yn gofyn am ein cymorth y byddwn ni yno iddynt ac yn ymateb yn effeithiol. Rydym yn gosod pwyslais mawr ar hyn oherwydd ei fod yn ffurfio sail ymateb heddlu da.
"Rydym hefyd yn canolbwyntio'n fawr ar sgwrsio gyda chymunedau, gyda swyddogaeth plismona cymdogaethau dda. Mae'n dda bod hyn wedi'i gydnabod. Rydym yn rhoi pwyslais ar blismona cymdogaethau, gyda swyddogion a SCCH lleol yn gweithio yn eu cymunedau ac yn datrys problemau lleol.
"Canfu'r adroddiad hefyd fod gan Heddlu Gogledd Cymru ddiwylliant o foeseg ac arweinyddiaeth gefnogol er mwyn cefnogi a hyrwyddo cynhwysiant. Mae cyrsiau arwain a datblygu wedi'u gosod er mwyn sicrhau fod rheolwyr gyda'r sgiliau cywir ac mae'r heddlu'n annog diwylliant o ddysgu ac arfer myfyriol ar draws yr holl adrannau. Mae hyn wedi bod ar waith ers yr arolwg diwethaf yn 2019. Mae'r sefydliad yn parhau i wneud gwelliannau a gweithredu newidiadau er mwyn gwella Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Daeth yr adroddiad, a ellir ei ddarllen yn llawn yma i'r casgliad fod ein gwaith gydag academia a'r rhaglen atal trosedd a datrys problemau genedlaethol yn arloesol.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Blakeman: "Rydym yn cydnabod fod rhai gwelliannau i'w gwneud yn dilyn canfyddiadau'r arolwg, gan gynnwys agweddau yn berthnasol i wella'r defnydd teg o rymoedd 'stopio a chwilio', a hyrwyddo gweithio amlasiantaeth. Mae hyn er mwyn sicrhau fod pobl fregus yn cael eu diogelu'n effeithiol. Rydym hefyd yn cydnabod y canfyddiadau a amlinellir yn yr adroddiad o sefyllfa 'ddigonol' yr heddlu o ran Cynllunio Strategol a Gwerth am Arian.
"Fodd bynnag, tra mae'r adroddiad yn adlewyrchu'r sefyllfa ariannol ar adeg yr adolygiad, mae wedi datblygu'n sylweddol ers hynny, o ystyried y pwysau chwyddiant sy'n cael ei deimlo ledled y sector plismona. Gyda'r cyd-destun heriol hwn yn gefndir, mae'r heddlu'n parhau i geisio gweithredu mor effeithlon ac effeithiol ac y gall, gan annog diwylliant o werth am arian."
Dywedodd Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd: "Rwyf yn falch fod yr adroddiad hwn wedi cydnabod y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan Heddlu Gogledd Cymru ar draws sawl maes. Mae'r rhain yn cynnwys plismona cymdogaethau, atal trosedd, ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a sicrhau diogelwch aelodau bregus ein cymdeithas.
"Mae'r holl feysydd hyn yn ffurfio rhan o'm Cynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru, felly mae'n galonogol gweld eu bod yn cael eu canmol yn benodol gan Arolygaeth Ei Fawrhydi.
"Byddaf yn parhau i gydweithredu gyda'r Prif Gwnstabl ac uwch swyddogion eraill er mwyn ychwanegu at ganfyddiadau'r adroddiad a nodi os oes unrhyw newidiadau angenrheidiol.
"Rwyf yn benderfynol o sicrhau fod trigolion Gogledd Cymru yn byw yn y rhanbarth mwyaf diogel yn y wlad. Rwyf yn diolch i holl swyddogion a staff Heddlu Gogledd Cymru am eu gwaith caled wrth geisio cyflawni'r nod hwn."