Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a fethodd â stopio i’r heddlu tra roedd o dan ddylanwad cyffuriau wedi derbyn dedfryd o garchar wedi’i gohirio ac wedi cael ei wahardd rhag gyrru am 48 mis.
Fe ymddangosodd Gareth Martin Trow, o Ffordd Euryn, Mochdre, o flaen Llys Ynadon Llandudno ar ddydd Mercher 8 Chwefror lle cafwyd ef yn euog o nifer o droseddau gyrru.
Yn ystod oriau mân 25 Ionawr 2022, roedd swyddogion ar batrôl yn ardal Bae Colwyn pan wnaethant sylwi ar gar Vauxhall Astra arian wedi parcio hefo un dyn wrth y llyw. Roedd y car wedi cael ei weld yn gynharach y noson honno ac wedi tynnu sylw’r swyddogion oherwydd y ffordd roedd yn gyrru. Fodd bynnag fe aeth y car o’r safle ac ni chafwyd hyd iddo.
Ar yr ail achlysur fe geisiodd swyddogion siarad hefo’r gyrrwr, ond unwaith eto, fe ymadawodd â’r safle drwy deithio tuag at gyfeiriad Mochdre cyn i’r heddlu golli golwg o’r car.
Ychydig wedyn, roedd Gareth Martin Trow yn cerdded ar hyd Ffordd Conwy ym Mochdre. Roedd yn ffitio’r un disgrifiad â gyrrwr y car, ac roedd yn gwisgo siaced parca oren llachar. Stopiodd swyddogion i siarad â Trow, ond fe redodd oddi yno i mewn i ardd gyfagos . Daeth swyddogion o hyd iddo ac fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o droseddau gyrru.
Yn dilyn ymchwiliad, cafodd y dyn 33 oed ei gyhuddo o:
Cafwyd Trow yn euog o’r cyhuddiadau i gyd ac fe dderbyniodd gyfnod o garchar am 22 wythnos – wedi’i ohirio am 12 mis a’i wahardd rhag gyrru am 48 mis. Mae’n rhaid iddo gwblhau 220 awr o waith di-dâl ac mae’n rhaid iddo dalu £620.
Dywedodd PC Haydn Roberts-Powell o’r Uned Plismona Ffyrdd: “Mae dewis gyrru ar gyffuriau yn beryglus ac yn gwbl annerbyniol. Mae hyd yn oed elfen fach yn eich system yn gallu amharu ar eich gallu i yrru’n ddiogel.
“Rydym wedi ymrwymo diogelu’r ffyrdd ac mae gennym strategaeth lem ynghylch plismona’r troseddau ‘5 Angheuol’ sy’n cynnwys gyrru ar gyffuriau. Rydym ar batrôl ddydd a nos ac nid ydym yn ymddiheuro am stopio modurwyr sy’n gyrru ar gyffuriau ac yfed a gyrru. Dylai unrhyw un sy’n ystyried gyrru ar gyffuriau neu yfed a gyrru wybod y byddwn ni allan yno’n disgwyl amdanynt. Byddwn ni’n parhau i weithredu’n llym yn erbyn y rhai sy’n mentro’n ddiangen ac yn eu dwyn ger bron y llysoedd.”
Nodiadau: