Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bu ymgyrch i gosbi masnachwyr twyllodrus yn Wrecsam wedi digwydd, gan ymlid y rhai hynny sy'n targedu trigolion bregus.
Gwelodd y diwrnod weithredu ar y cyd gan dimau plismona cymdogaethau lleol o Ddinas Wrecsam a Wrecsam Wledig yn gweithio gyda Safonau Masnach Cyngor Wrecsam mewn ardaloedd wedi'u targedu er mwyn aflonyddu ar droseddau a sgamiau carreg drws.
Fe ddaeth yn dilyn adroddiadau diweddar mewn ardaloedd o Wrecsam yn cynnwys Merffordd, Yr Orsedd, Johnstown ac Erddig.
Rhoddwyd pecynnau cyngor a chanllawiau i gannoedd o drigolion yn yr ardaloedd hynny ar sut i gadw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel rhag camfanteisio, gydag arwyddion rhybudd yn cael eu codi mewn ardaloedd preswyl sy'n cael eu targedu.
Roedd swyddogion Safonau Masnach hefyd yn hysbysu trigolion am gynllun Houseproud Cyngor Wrecsam, sy'n cynorthwyo sicrhau fod gwelliannau i eiddo yn cael eu cynnal yn ddiogel a phroffesiynol.
Gwnaeth swyddogion o'r tîm rhwystro gynorthwyo'r ymgyrch hefyd, gan dargedu cerbydau masnachwyr twyllodrus hysbys i'r heddlu drwy adnabod platiau rhif yn awtomatig (ANPR).
Dywedodd y Rhingyll Susan Carrington o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae troseddau carreg drws yn cael effaith sylweddol ar ddioddefwyr. O ganlyniad, rydym yn rhannu adnoddau mewn ardaloedd lle rydym yn gwybod mae galwyr digroeso yn eu targedu.
"Rydym yn gwneud hyn er mwyn addysgu'r cyhoedd ar beryglon derbyn yr unigolion hyn i wneud gwaith, neu brynu pethau ganddynt, a siarad â masnachwyr er mwyn eu haddysgu nhw ar y safonau rhaid iddynt gydymffurfio â nhw i fod yn gyfreithiol.
"Mae'r mwyafrif o fasnachwyr yn unigolion sy'n gweithio'n galed a gonest sydd angen mynd i gnocio ar ddrysau am waith. Os ydy rhywun yn cnocio ar eich drws, holwch eich hun pam maent yn chwilio am waith.
"Gwnawn barhau i gydweithredu'n agos gyda'n partneriaid yn Safonau Masnach er mwyn cynnal y gweithrediadau hyn yn rheolaidd. Mae hyn er mwyn gwarchod y cyhoedd a chynorthwyo i rannu cudd-wybodaeth."
Mae masnachu twyllodrus yn cyfeirio at yr arfer o godi gormod yn fwriadol am nwyddau a gwasanaethau anfoddhaol.
Gall gynnwys codi am waith diangen, difrodi eiddo gyda'r nod o gael arian neu adael gwaith anorffenedig cyn defnyddio ymddygiad bygythiad er mwyn gorfodi mwy o arian allan o berchnogion tai.
Dywedodd Will Jones, swyddog gwarchod y cyhoedd arbenigol ar gyfer Safonau Masnach: "Mae trosedd carreg drws yn golygu perswadio perchnogion tai i gael gwaith diangen wedi'i wneud ar eu cartrefi neu eu gerddi drwy ddweud celwydd wrthynt neu eu camarwain am gyflwr yr eiddo.
"Maent yna'n cynnal gwaith o ansawdd annigonol sydd weithiau mor ddrwg mae'n gadael yr eiddo mewn gwaeth cyflwr nag yr oedd cyn iddynt ddechrau. Maent yn codi pris llawer uwch na'i werth hyd yn oed pe bai wedi'i wneud yn eithaf da.
"Gall yr effaith ar drigolion fod yn ddifrifol. Nid ond yr effaith ariannol ond gall colli hunanhyder a'r hyder i fyw'n annibynnol fod yr un mor ddifrifol, yn fwy weithiau.
"Os nad oes neb yn cadw llygad, mae dioddefwyr yn debygol o gael eu targedu'n fynych. Cadwch lygad allan am eich ffrindiau, teulu a chymdogion. Os ydych yn gweld unrhyw beth amheus, hysbyswch amdano."
Er mwyn hysbysu am ddigwyddiad, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506 neu cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru drwy'r wefan, neu ar 101
Ceir mwy o wybodaeth ar y cynllun Houseproud yma – Cynllun Houseproud | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Am y wybodaeth ddiweddaraf am drosedd, apeliadau, cyngor ar atal a gweithgarwch plismona cyffredinol yn eich ardal leol, cofrestrwch gyda Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru am ddim yma - Hafan – Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru
Dyma bum gair o gyngor wedi'u rhannu gan swyddogion er mwyn cynorthwyo atal dod yn ddioddefwr: