Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Lansiwyd Ymgyrch Soteria fel ymateb i Adolygiad Treisio O'r Dechrau i'r Diwedd y llywodraeth ac addewid y Swyddfa Gartref i gynyddu'r nifer o achosion treisio sy'n cyrraedd y llys.
Ar hyn o bryd, mae 19 o heddluoedd yn cymryd rhan yn yr ymgyrch sy'n cael ei harwain gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (CCPSH) a rhaglen ymchwil a newid a ariennir gan y Swyddfa Gartref. Mae'r cynllun yn anelu trawsnewid ymateb plismona i dreisio a throseddau rhywiol difrifol. Bydd yn arwain at gynllun gweithredu cenedlaethol a fydd yn cael ei gyflwyno i holl heddluoedd y Swyddfa Gartref sy'n 43 i gyd.
Yr wythnos ddiwethaf, fe aeth y Ditectif Arolygydd Clare Foreman a'r Uwcharolygydd Simon Williams o Uned Gwarchod Pobl Fregus Heddlu Gogledd Cymru i gynhadledd genedlaethol Ymgyrch Soteria yn y Coleg Plismona yn Ryton.
Aeth swyddogion a staff o 19 heddlu Soteria sy'n cymryd rhan yn yr ymgyrch ynghyd ag aelodau o Swyddfa'r Maer Heddlu a Throsedd a Thîm Canolog Soteria. Roedd Sarah Crew, Prif Gwnstabl Heddlu Avon a Gwlad yr Haf hefyd yn bresennol fel arweinydd cenedlaethol treisio a throseddau rhywiol difrifol.
Roedd y gynhadledd wedi'i hanelu at ddysgu a rennir a chreu ffyrdd arloesol ar y cyd o wella ein hymdriniaeth at dreisio a gwella taith y dioddefwr.