Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cyfanswm o 13 o arestiadau wedi'u gwneud ledled y DU yr wythnos hon fel rhan o ymgyrch rhwng heddluoedd yn targedu cyflenwi cyffuriau i Wrecsam a Glasgow gan yr hyn a amheuir o fod yn grŵp troseddau trefnedig lleol.
Gwelodd Ymgyrch Galaxy Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithredu gyda Heddlu'r Alban, Heddlu Swydd Gaer, Heddlu Glannau Mersi, Heddlu Manceinion Fwyaf a'r Uned Troseddau Trefnedig Rhanbarthol (ROCU) er mwyn gweithredu sawl gwarant fel rhan o ymchwiliad parhaus i'r hyn a amheuir o fod yn gynllwyn cyffuriau.
Gwnaeth 120 o swyddogion gymryd rhan yn yr ymgyrch pum mis a ddigwyddodd dros ddau ddiwrnod ar ddydd Mawrth, 14 Chwefror a dydd Iau, 16 Chwefror.
Targedwyd cyfanswm o 15 eiddo mewn ardaloedd yn cynnwys Wrecsam, Glasgow, Glannau Mersi, Swydd Gaer a Manceinion, lle atafaelwyd meintiau o gyffuriau, arian parod a ffonau symudol.
Mae 13 o ddynion wedi'u harestio i gyd ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B.
Dywedodd Chris Allsop, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol: "Mae gwaith yr wythnos hon gydag Ymgyrch Galaxy yn dangos sut mae heddluoedd ledled y DU a ROCU yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn chwalu grwpiau troseddau trefnedig a amheuir.
"Mae'r nifer o arestiadau a wnaed fel rhan o'r ymchwiliad yr wythnos hon yn dystiolaeth o hyn. Mae'n amlygu i'r cyhoedd ein penderfyniad llwyr i gael gwared ar droseddau cyffuriau yn ein cymunedau.
“Mae nifer o gyffuriau wedi cael eu cymryd oddi ar ein strydoedd yr wythnos hon diolch i waith pob swydd a oedd ynghlwm yn yr ymchwiliad hwn.
“Mae pob ymgyrch heddlu lwyddiannus yn gwneud ein strydoedd yn fwy diogel. Bydd chwalu gangiau troseddau trefnedig ar waith yng Ngogledd Cymru a chael gwared ar gyffuriau oddi ar ein strydoedd yn parhau yn flaenoriaeth i'n heddlu ni."
Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Roberts: "Hoffwn estyn fy niolch i'r holl swyddogion o bob heddlu sydd wedi cynorthwyo gwneud yr ymgyrch hon yn llwyddiant.
"Drwy rannu cudd-wybodaeth a gweithio gyda'i gilydd, rydym wedi gallu cynnal ymchwiliad sylweddol i'r hyn a amheuir o fod yn grŵp troseddau trefnedig, a gredir o fod yn cyflenwi cyffuriau o Wrecsam mor bell â Glasgow.
"Mae gwarchod cymunedau Wrecsam ac ymhellach o'r pwys mwyaf i mi ac i'r heddlu. Mae'r ymgyrch hon yn enghraifft aruthrol o'r hyn ellir ei gyflawni pan mae heddluoedd yn gweithio gyda'i gilydd gyda chymorth gan y cyhoedd.
"Mae cyffuriau'n achosi trallod i fywydau cymaint o bobl. Nid oes ganddynt le yn ein cymunedau ac rwyf yn hynod falch ei bod wedi gallu gwneud yr arestiadau hyn.
"Fe wnawn barhau i weithio er mwyn cael gwared ar gymaint o gyffuriau oddi ar ein strydoedd ag y gallwn."