Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gallwn gadarnhau fod ymchwiliad wedi'i lansio i adroddiad am ymosodiad rhywiol a ddigwyddodd yn ardal Penycae.
Toc cyn 1am ar ddydd Mercher, 22 Chwefror, gwnaethom dderbyn adroddiad fod dyn wedi dioddef ymosodiad rhywiol ger y clwb pêl droed gan ddyn arall.
Nid oedd yna blant na merched yn gysylltiedig â'r digwyddiad ac nid ydym wedi'n hysbysu am ddigwyddiad tebyg cyn neu ers y digwyddiad hwn.
Dywedodd Matt Subacchi, Arolygydd Wrecsam Wledig: "Rwyf yn ymwybodol am bryderon parhaus o fewn y gymuned ym Mhenycae yn dilyn ymosodiad rhywiol a hysbysir ei fod wedi digwydd ddydd Mercher diwethaf.
"Rwyf wedi anfon fy swyddogion i batrolio'r ardal er mwyn rhoi tawelwch meddwl wrth i ni barhau i ymchwilio'n drwyadl i'r digwyddiad hwn sy'n cael ei drin yn ddifrifol iawn.
"Rwyf yn deall rhwystredigaeth leol o ran y wybodaeth gyfyngedig a ryddhawyd yn ystod ymchwiliadau o'r natur hon. Ond mae'n rhaid i ni ystyried sut all unrhyw wybodaeth a rennir effeithio ein gallu i ymchwilio a sefydlu amgylchiadau llawn adroddiad – wrth warchod y dioddefwr a'r cyhoedd, a'r ymchwiliad ei hun.
"Os oes gan unrhyw un wybodaeth o ran y digwyddiad hwn, cysylltwch â ni ar 101, neu drwy'r wefan, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 23000153566."
RHYBUDD: Rydym yn deall pan rydym yn hysbysu am ddigwyddiadau sydd o natur rywiol, gall fod yn fater emosiynol. Rydym yn ymchwilio'n drwyadl i'r digwyddiad sy’n cael ei drin fel un difrifol.
Fodd bynnag, gan fod hwn yn ymchwiliad byw, pwyllwch cyn cyhoeddi sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Deddf Troseddau Rhywiol (Gwelliant) 1992 yn rhoi anhysbysrwydd gydol oes i bob achwynydd a dioddefwr trosedd rywiol.
Mae hyn yn golygu fod gwybodaeth sy'n debygol o arwain at adnabod achwynydd neu ddioddefwr yn drosedd. Gall gyfateb i ddirmyg llys a'r gosb ydy dirwy neu hyd at ddwy flynedd o garchar.