Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r nifer o fyrgleriaethau preswyl wedi parhau i ostwng yng ngogledd Cymru, yn ôl y ffigyrau diweddaraf sydd ar gael.
Gwelwyd gostyngiad yn y nifer o 'Fyrgleriaethau Preswyl' yn ystod y pandemig Covid gyda mwy o bobl yn gweithio o'r cartref a llai o 'droseddoldeb teithiol'. Mae'r troseddau hyn yn cynnwys byrgleriaethau yn y cartref, tai gwag a thai allan fel siediau a garejys.
Mae'r gostyngiad mewn troseddau wedi parhau dros y 12 mis diwethaf er codi cyfyngiadau. Hyd yma, mae 10% yn llai o fyrgleriaethau preswyl nag yn ystod yr un cyfnod llynedd sy'n cyfateb i 128 yn llai o ddioddefwyr trosedd.
Wrth wneud sylwadau ar y ffigyrau diweddaraf, dywedodd y Prif Uwcharolygydd Sian Beck o'r Gwasanaethau Plismona Lleol: "Mae dioddef byrgleriaeth yn eich cartref yn ymyriad personol. Rydym yn deall yr effaith sylweddol mae hyn yn ei gael ar ddioddefwyr ar droseddau o'r fath.
"Mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio'n galed o fewn ein cymunedau er mwyn mynd ati i leihau'r math hwn o drosedd, drwy ymweld â thrigolion bregus ac eiddo cyfagos. Mae hyn er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o'r bygythiadau, ynghyd a'u cynorthwyo i wneud eu heiddo’n llai deniadol i droseddwyr.
"Rydym yn sylweddoli ein bod angen parhau gyda'r patrwm presennol o ddod â mwy o droseddwyr byrgleriaethau o flaen eu gwell. Fel rhan o'n perwyl i wneud gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld yn y DU, bydd ein Prif Gwnstabl newydd yn lansio menter 'Dangos y Drws i Drosedd' newydd. Bydd hyn er mwyn lleihau troseddau caffael ymhellach a gwella diogelwch yn ein cymunedau."
Dywedodd y Prif Arolygydd Helen Douglas, sy'n arwain y fenter ar ran y Prif Gwnstabl: "Ein menter 'Dangos y Drws i Drosedd' ydy ein hymdriniaeth tuag at droseddau caffael fel byrgleriaeth, lladrad a throseddau cerbydau, gan dargedu'r rhai hynny sy'n cyflawni'r troseddau hyn.
"Fe wnawn ddarparu strategaethau atal trosedd profedig a thystiolaeth i gymunedau a busnesau, gan wella diogelwch er mwyn atal trosedd pellach. Fe wnawn gydweithredu'n agos gyda mân-werthwyr er mwyn eu dangos sut i gydnabod nwyddau wedi'u dwyn ac atal troseddwyr rhag elwa o eiddo wedi'u dwyn.
"Fe wnawn hyfforddi busnesau a phartneriaid i fod yn 'llygaid a chlustiau' i ni, gan egluro arwyddion troseddau trefnedig, camfanteisio troseddol a sut i'n hysbysu ni am hyn. Fe wnawn ddod a throseddwyr o flaen eu gwell, eu dal wrth iddynt weithredu wrth ddefnyddio asedau cudd, technoleg fforensig a thactegau arloesol."