Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwirfoddolwyr wedi'u cymeradwyo am eu cymorth yn ystod chwilio am unigolyn coll yn ardal Llyn Brenig ym mis Tachwedd 2022.
Aeth yr Uwcharolygydd Dros Dro Owain Llewellyn i weld y tîm NEWSAR (Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru) er mwyn cyflwyno cymeradwyaeth fel cydnabyddiaeth o'u gwasanaethau hanfodol i ddiogelu pobl eraill.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Dros Dro Llewellyn: "Hoffwn ddiolch i'r tîm NEWSAR am eu hymroddiad i wasanaethu eu cymuned.
"Yn ystod y chwiliad hwn, roedd cyfranogiad NEWSAR yn hanfodol i ddod o hyd i unigolyn coll risg uchel.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gwerthfawrogi'r bartneriaeth wrth gydweithredu gyda gwirfoddolwyr yn NEWSAR a'r Timau Achub Mynydd eraill ledled y rhanbarth, sydd bob amser yn barod i'n cynorthwyo ni, waeth beth ydy'r tywydd neu'r adeg o'r dydd neu'r nos.
Dywedodd Chris Griffiths, Arweinydd Tîm NEWSAR: "Mae ein gwirfoddolwyr yn fodlon mynd allan ymhob tywydd bob amser o'r dydd a'r nos er mwyn cynorthwyo pobl eraill, heb unrhyw ddiolch. Ond rydym wirioneddol yn gwerthfawrogi'r Uwcharolygydd Dros Dro Owain Llewellyn yn dod i'n safle ni er mwyn cyflwyno'r gymeradwyaeth hon.
“Mae'n wych cael ein cydnabod am yr holl waith rydym yn ei wneud."