Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yfory, bydd 20 mlynedd wedi mynd heibio ers llofruddiaeth Paul Savage a gafodd ei ladd wrth weithio fel postmon yn yr Wyddgrug ar 4 Chwefror, 2003.
Er gwaethaf archwiliadau trylwyr gan yr heddlu a gwobr ariannol, nid oes neb wedi cael ei erlyn am y llofruddiaeth.
I gefnogi'r achos mae Crimestoppers, sy'n annibynnol o'r heddlu yn cynnig £20,000 am wybodaeth sy'n arwain at ddal y rhai sy'n gyfrifol am lofruddiaeth Paul Savage.
Dywedodd Ditectif Arolygydd Myfanwy Kirkwood: “Rydym yn meddwl am deulu Paul, teulu nad yw wedi cael cyfiawnder hyd y dydd heddiw.
“Credwn fod rhywun, neu rywrai allan yno gyda gwybodaeth a allai ein helpu i ddatrys yr ymchwiliad hwn.
“Rwyf yn deall bod pobl yn gyndyn o ddod ymlaen ar ôl cymaint o flynyddoedd, ond gallaf eich sicrhau y bydd unrhyw wybodaeth a dderbynnir yn cael ei drin yn gyfrinachol. Dim ond gwybodaeth a fydd o gymorth i'r ymchwiliad sydd o ddiddordeb i ni.
"Ni fyddwn yn cau unrhyw achos sydd heb ei ddatrys a gofynnir i unrhyw un gyda thystiolaeth newydd, sylweddol i ddod ymlaen."
Dywedodd Gary Murray, o'r elusen Crimestoppers: "Bob dydd rydym yn clywed oddi wrth bobl sy'n dweud pa mor anodd yw hi i siarad am drosedd, yn enwedig os yw’n ymwneud â phobl sy'n agos i chi.
“Mae hwn yn achos trist iawn ac mae ein helusen yn awyddus i gefnogi'r heddlu drwy gynnig hyd at £20,000 am wybodaeth yn ddienw sy'n arwain at erlyn.
“Cofiwch, nid yw Crimestoppers yn gofyn am eich manylion personol nac yn cadw gwybodaeth fel eich enw a'ch rhif cyswllt. Dywedwch wrthym yr hyn yr ydych yn ei wybod fel y gallwn drosglwyddo'r wybodaeth a rhoi cyfiawnder i Paul a'i deulu.
Os oes gennych wybodaeth, ewch i Crimestoppers-uk.org a llenwch ein ffurflen ar-lein yn ddienw, neu galwch radffôn 0800 555 111 ar unrhyw adeg. Pan fyddwch yn barod, rhowch wybod i ni, byddwn i yma i chi.”
Gall unrhyw un â gwybodaeth am yr achos gysylltu â ni drwy ein gwefan neu drwy alw 101.