Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diswyddo Swyddog Gwirfoddol yn dilyn Gwrandawiad Camymddwyn
Cynhaliwyd Gwrandawiad Camymddwyn heddiw o ran y Swyddog Gwirfoddol Bradley Jones. Yn ei absenoldeb, canfu panel annibynnol ar-lein ei fod wedi camymddwyn yn ddifrifol o ran tri allan o bedwar cyhuddiad yn ei erbyn. Roedd hyn yn cynnwys gwthio ei ddioddefwr a rhegi arni mewn man cyhoeddus. Roedd achos o gyffwrdd yn rhywiol hefyd. Mae bellach wedi'i ddiswyddo o'r heddlu'n ddirybudd ac wedi'i roi ar y Rhestr Waharddedig, sy'n golygu na fydd yn gallu gwasanaethu mewn unrhyw heddlu yn y dyfodol.
Wrth siarad ar ddiwedd y gwrandawiad, Rheolwr Dinasyddion mewn Plismona a Prif Swyddog Gwnstabliaeth Gwirdoddol, Mark Owen MBE:
“Dwi wedi fy nychryn gan ymddygiad Bradley Jones. Fe wnaeth ei ymddygiad syrthio islaw unrhyw safon derbyniol ar gyfer unrhyw un, heb sôn am Swyddog Gwirfoddol.
“Cafodd Bradley Jones ei wahardd fel Swyddog Gwirfoddol yn syth ar ôl i ni gael gwybod am ei ymddygiad o. Tydy o ddim wedi cael cyflawni unrhyw ddyletswyddau tra mae’r ymchwiliad wedi bod yn mynd ymlaen. Roedd y penderfyniad i’w ddiswyddo fo’n syth yr un iawn a dwi’n ddiolchgar am hynny.
“Mae’n atgyfnerthu’r ffaith na wnaiff Heddlu Gogledd Cymru oddef ymddygiad o’r fath gan unrhyw un o’i swyddogion a staff. Bydd unrhyw un sy’n ymddwyn fel hyn yn wynebu ymchwiliad llym a chamau priodol.”
Wrth siarad ar ddiwedd y gwrandawiad, dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Jackie Downes, Pennaeth Adran Safonau Proffesiynol yr Heddlu: "Dydan ni ddim yn caniatáu’r ymddygiad o'r fath, ac fe wnawn ni herio achosion o'r fath. Hyd yn oed os nad ydy hyn yn rhywbeth troseddol.
"Mae trais yn erbyn merched a genethod yn flaenoriaeth allweddol i'r heddlu. Mae'r achos hwn, hefo dau achos digyswllt yn cynnwys merched yn ddioddefwyr, yn peri pryder.
"Mae disgwyl i'n swyddogion a staff ni gydymffurfio hefo safonau ymddygiad proffesiynol. Pan mae'r safonau hyn yn cael eu torri, fe wnawn ni ddelio hefo hyn yn gadarn. 'Da ni'n annog unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig gan droseddwyr yn yr heddlu i ddod ymlaen a chysylltu hefo ni."