Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
'Da ni'n parhau hefo'n gwaith o atal trais yn erbyn merched a genethod, helpu dioddefwyr ac ymlid troseddwyr.
Mae'r term 'trais yn erbyn merched a genethod' yn cyfeirio at drais neu gam-drin 'da ni'n gwybod sy'n effeithio'n anghymesur ar ferched a genethod.
Mae troseddau'n cynnwys treisio a throseddau rhywiol eraill, stelcio, cam-drin domestig, cam-drin 'ar sail anrhydedd' (gan gynnwys llurgunio organau cenhedlu merched, priodasau o dan orfod a lladdiadau 'anrhydedd'), 'pornograffi dial' a 'thynnu lluniau dan dîn, ynghyd â llawer o rai eraill.
Drwy gydol mis Tachwedd, bu 144 o ganlyniadau cadarnhaol o ran y rhai hynny a amheuwyd o fod wedi troseddu yng ngogledd Cymru.
Mae canlyniad cadarnhaol yn golygu camau wedi'u cymryd gan yr heddlu yn dilyn digwyddiad wedi'i riportio i ni ac mae rhywun wedi cael eu harestio. Gall hyn gynnwys sawl canlyniad, er enghraifft cyhuddiad, rhybudd neu raglen sy'n gweithio er mwyn delio hefo achosion sylfaenol y troseddu (checkpoint).
O'r 144 canlyniad y mis diwethaf, arweiniodd cyfanswm o 106 at gyhuddiad.
Ar ben hyn, rhoddwyd pedwar rhybudd, aeth wyth i'r rhaglen checkpoint a chyhoeddwyd 26 datrysiad cymunedol, ble mae'r troseddwr yn derbyn cyfrifoldeb neu'n gwneud rhyw fath o iawn am rywbeth.
O'r holl ganlyniadau positif, roedd 52% (75 o droseddau) yn ymwneud â throseddau domestig.
Roedd bron i 38% yn achosion o drais a arweiniodd at anaf corfforol, tra roedd bron i 27% yn ymwneud â throseddau stelcio ac aflonyddu.
Dywedodd TEMG Rheolwr Cyflenwi Tactegol, Arolygydd Claire McGrady: "Yn hanesyddol, mae digwyddiadau o gam-drin domestig yn dueddol o gynyddu dros gyfnod y Nadolig.
“Mae partneriaid yn aml yn ceisio gwneud esgusodion dros ymddygiad anfaddeuol, er enghraifft gormod o alcohol, pwysau ariannol neu broblemau teuluol. Does byth esgus dros gam-drin domestig.
"Dylai teuluoedd gael Nadolig diogel a heddychlon, heb ofni cam-drin a thrais. Rydym yn rhybuddio troseddwyr i newid eu hymddygiad, neu byddwn yn gwneud popeth yn ein grym i ddiogelu'r dioddefwr a rhoi'r troseddwr o flaen eu gwell."
"Bydd swyddogion yn parhau i weithio 24/7 dros gyfnod y Nadolig ac yn ymateb i unrhyw adroddiad o gam-drin domestig neu drais, felly riportiwch unrhyw ddigwyddiad, gallwn eich sicrhau y byddwn yn eich credu chi ac yn eich cefnogi."
Tra bod ni'n defnyddio'r term 'trais yn erbyn merched a genethod' drwy gydol yr adroddiad hwn, mae hyn y cyfeirio at holl ddioddefwyr unrhyw un o'r troseddau hyn.