Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Swyddogion wedi lansio ymgyrch i daclo lladrata mewn siopau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod cyfnod y Nadolig.
Bydd swyddogion yn cynnal patrolau amlwg yng nghanol Caernarfon a dinas Bangor i atal troseddu ac i gynnig sicrwydd i bobl sy’n gwneud eu siopa Nadolig ac yn mwynhau dathliadau eraill.
Fel rhan o’r ymgyrch hon, penodwyd Rheolwr Rhawd y Gymuned ychwanegol ar gyfer Caernarfon a’r pentrefi cyfagos. Bydd PC Jordan Jones allan yn rheolaidd yn y gymuned yn siarad â’r gweithwyr yn y siopau a chwsmeriaid ynglŷn ag unrhyw broblemau neu ofidion. Dewch draw i ddweud helo wrtho.
Dywedodd Rhingyll Tîm Plismona Daniel Dent: “Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r sector manwerthu a’n cymunedau yn ystod cyfnod yn Nadolig drwy weithio yn agos gyda phartneriaid er mwyn cynnig awyrgylch ddiogel i bobl i weithio a siopa.
“Mae’r heddlu allan ar batrôl amlwg mewn canolfannau siopa yng Ngogledd Gwynedd er mwyn tawelu meddwl y gymuned ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a dwyn o siopau.
“Rydym eisoes wedi cael y pleser o gwrdd â nifer o weithwyr tra ar batrôl a byddwn yn parhau i weithio gyda rheolwyr ac asiantaethau eraill i fynd i‘r afael â throseddu mewn siopau.”
Os oes gennych unrhyw ofidion am eich ardal, cysylltwch â ni ar ein gwefan neu drwy alw 101.