Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ystod haf 2023, gwnaethon ni, mewn partneriaeth hefo Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yr RNLI ac Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT) osod her – #HerFawrYrHaf2023
Fe wnaethon ni alw ar ysgolion, colegau, grwpiau ieuenctid a chlybiau feddwl am syniadau arloesol a fyddai'n cadw pobl yn saff neu a fyddai o fudd i bobl a llefydd yn eu cymunedau nhw. Roedd hyn yn cynnwys edrych ar fannau oedd wedi'u hesgeuluso. Roedd hyn er mwyn helpu atal tanau, hybu defnyddio padlfyrddau'n saff a gwisgo teclynnau arnofio personol neu ymgyrchu am gyfleusterau ieuenctid yn eu hardal nhw.
Yr enillwyr oedd Heddlu Bach Ysgol Llanfawr yng Nghaergybi.
Fe wnaeth y grŵp yma weithio dros yr haf ar dair ardal er mwyn helpu yn eu cymuned nhw. Cyn dechrau eu prosiect nhw, fe wnaethon nhw siarad hefo dau gynghorydd lleol er mwyn nodi'r blaenoriaethau yng Nghaergybi y gallan nhw eu helpu hefo nhw. Gwnaeth y grŵp gynnal patrolau codi sbwriel rheolaidd ym Morawelon er mwyn gwella'r ardal drwy ei gwneud hi'n lanach ac yn saffach.
Fe aethon nhw hefyd ar ymweliadau rheolaidd at drigolion oedrannus yn y ganolfan gymunedol leol a thrafod ffyrdd o'u gwneud nhw deimlo'n saffach.
Yn olaf, fe wnaeth y grŵp greu cerrig wedi'u peintio hefo lliwiau a negeseuon y gwnaethon nhw eu gosod mewn mannau wedi'u dewis yn ofalus er mwyn gwneud pobl deimlo'n hapusach. Mae'r grŵp yn dweud eu bod nhw wedi dysgu llawer drwy wneud eu prosiect nhw, gan gynnwys eu mannau cymunedol yn fwy a'u cadw'n nhw'n lân, gan sylweddoli y gall pobl deimlo'n drist ac unig ac y gallan nhw helpu pobl deimlo'n well.
Yn ail agos oedd Cwmni Theatr Bitesize o Wrecsam
Fe wnaeth y grŵp hefyd godi sbwriel yn eu caeau chwarae lleol. Roedden nhw'n cynnwys y gymuned leol yn eu hymdrechion ac fe wnaethon nhw roi gwahoddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn i bobl ymuno.
Gwnaethon nhw ail-lenwi'r bagiau bob pythefnos yn y biniau baw ci newydd y gwnaethon nhw ofyn i'r cyngor eu gosod. Maen nhw hefyd wedi chwarae rôl a chael dosbarthiadau addysgol yn y theatr ieuenctid er mwyn codi ymwybyddiaeth am broblemau cymunedol.
Dywedodd y Rhingyll Beth Jones o'r Ganolfan Atal: "Mae wedi bod yn fraint gweld cynigion Her Fawr yr Haf eleni a'r gwaith anhygoel mae ein cystadleuwyr wedi'i gyflawni yn eu cymunedau nhw. Byddwn yn rhedeg y gystadleuaeth eto'r flwyddyn nesaf ar gyfer unrhyw un a gollodd allan y tro yma ond a hoffai gystadlu. Buaswn hefyd yn hoffi diolch i'n partneriaid ni yn y prosiect hwn sef Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yr RNLI ac Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT)."
Fe wnaethon ni dderbyn cymaint o gynigion gwych hefo syniadau mor arloesol er mwyn helpu cymunedau ar draws Gogledd Cymru. Buasem ni'n hoffi diolch i bawb wnaeth gymryd rhan a helpu drwy gydol y gystadleuaeth.