Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae nifer o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi cael eu gwobrwyo am eu cyfraniad arbennig i ddiogelwch cymunedol.
Gwobrwywyd swyddogion o'r Tîm Troseddau Blaenoriaethol, 'Dangos y Drws i Drosedd', Trais yn Erbyn Merched a sawl un arall yn Seremoni Wobrwyo Cymunedau Diogelach Cymru yn Abertawe ddoe.
Hwn yw'r digwyddiad cyntaf i ddathlu gwaith prosiectau, partneriaethau a phobl sy'n gwneud cymunedau yn fwy diogel ar draws Cymru.
O'r pedwar categori ar ddeg, enillodd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru bedwar, yn cynnwys; caethwasanaeth fodern ac ecsploetiaeth; trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol; atal troseddau a throseddu a chyfiawnder.
Winner of the overall Wales Safer Communities Award, and modern slavery and exploitation category
Roedd y Tîm Troseddau Blaenoriaethol yn cynnwys Arolygydd Richard Sidney, Rhingyll Kiera Williams, DC Stuart Goldsack, Rhingyll David Buckley, DC Andrew Etches, Rhingyll Arron Hughes, PC Michelle Allsup, Rhingyll Catherine Hampson, PC Sharon Thorogood, Rhingyll Andrew Symonds-Roberts, PC Dale Cassidy, DC Chris Wynne, DC Hayley Pearson, DC Claire Owen, DC Jennifer Sansom. Mi wnaeth Anne Marie Fisher a Richard Kelsall hefyd ennill gwobr gyffredinol yn y digwyddiad am eu gwaith ar Ymgyrch Tylluan.
Lansiwyd yr ymchwiliad i gam-fanteisio ar blentyn ar ôl i blentyn 15 oed oedd ar goll gael ei arestio yn y Rhyl, gyda chyffuriau, arian a ffôn symudol.
Mi wnaeth swyddogion adnabod yr arwyddion bod y plentyn yn rhan o 'Linellau Cyffuriau' a hefyd wedi dioddef cam-fanteisio troseddol.
Ym mis Hydref 2022 euogfarnwyd deg troseddwr gan dderbyn hyd at 10 mlynedd o garchar. Carcharwyd saith am fasnachu pobl a chwech am gynllwynio i gyflenwi heroin a chocên, er nad oedd y dioddefwr yn rhan o'r ymchwiliad.
Llwyddodd y swyddogion i ddinistrio'r Llinell Gyffuriau a llwyddo i ddiogelu plant ac oedolion bregus yng Ngogledd Cymru.
Credir mai Ymgyrch Tylluan oedd y Llinell Gyffuriau fwyaf yn ymwneud â chynllwyn masnachu pobl i gael ei erlyn yn y llys unrhyw le yn y DU, i gyd heb gefnogaeth y dioddefwr.
Offending and justice category
Cafodd PC Eryl Lloyd, DC Sean Harrison, DC Stuart Goldsack ac Anne-Marie Fisher wobr yn y categori troseddu a chyfiawnder am eu gwaith ar Ymgyrch Spinel - ymchwiliad i gyfres o fyrgleriaethau yng Nghonwy a Sir Ddinbych fis Chwefror.
Mae'n cynnwys nifer o ymchwiliadau paralel i fyrgleriaethau ar draws Gogledd Cymru gan grŵp trefnedig o droseddwyr o Lannau Mersi.
Cyhuddwyd y diffynyddion o gynllwyn a wnaeth arwain at dri throseddwr yn cyfaddef i'r troseddau, gan arwain at gyfanswm o dros 20 mlynedd yn y carchar.
Crime prevention category
Enillodd y tîm newydd 'Dangos y Drws i Drosedd' a gynrychiolwyd gan Ringyll Sue Carrington y categori atal troseddau am eu dull o leihau manteision lladrata, byrgleriaeth - a throseddu i droseddwyr.
Mae'r Dangos y Drws i Drosedd yn fenter ble mae swyddogion yn marcio eiddo gyda 'dwr datgelu' fel bod modd ei olrhain yn ôl ar y perchennog ac olrhain y troseddwyr hefyd.
Violence against women, domestic abuse and sexual violence category
Enillodd Arolygydd Claire McGrady, Rheolwr Trais yn Erbyn Merched, wobr yn y categori Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Dyma'r ail wobr iddi ennill ers mis Medi, am yr effaith mae ei gwaith wedi cael ar strydoedd Wrecsam yn creu amgylchedd diogel i ferched a genethod dros y tair blynedd diwethaf, sydd wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn riportio troseddau rhywiol difrifol.
Dywedodd Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: “Llongyfarchiadau i'r holl swyddogion a staff sydd wedi cael cydnabyddiaeth am eu gwaith caled yn seremoni gyntaf Gwobrau Cymunedau Diogelach Cymru.
"Rwyf yn falch iawn o'n henillwyr i gydag ac mae eu gwaith caled wedi cyfrannu at ddiogelwch cymunedau Gogledd Cymru, gan wneud yr ardal yn le mwy diogel i weithio, byw ac ymweld.
"Mae'r gwobrau yn pwysleisio'r ymdrech i ymladd a lleihau troseddau gan roi gwasanaeth ardderchog i ddioddefwyr drwy daclo materion sydd wir o bwys i'r gymuned, fel trais yn erbyn merched, troseddau cefn gwlad a throseddau caffael.
"Maent i gyd wedi dangos dulliau clodwiw o ddatrys problemau.
“Mae carcharu'r troseddwyr hyn hefyd wedi ychwanegu yn sicr at gymunedau mwy diogel ar draws Gogledd Cymru.
"Rydym yn parhau yn ymroddedig i gael cymunedau mwy diogel a chydnabod drwy weithio gyda'n gilydd a chyda phartneriaid gallwn rannu cryfderau, adnoddau ac arbenigedd i ganfod atebion dyfeisgar a hirdymor i greu cymdogaethau mwy diogel.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Llongyfarchiadau i'r holl swyddogion a staff o Heddlu Gogledd Cymru a gafodd eu gwobrwyo a'u henwebu yn seremoni gyntaf Gwobrau Rhwydwaith Cymunedau Diogelach Cymru.
“Mae eu llwyddiant yn dyst i'w hymrwymiad i ddyletswydd a dyfeisgarwch yn y frwydr yn erbyn troseddau, ar bob lefel drwy'r Heddlu.
"Dw i'n gwybod bod trigolion Gogledd Cymru yn ddiolchgar am eu gwaith caled a'r ymdrech i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.
“Hoffwn ddiolch i Rwydwaith Cymunedau Diogelach Cymru am gynnal y seremoni wobrwyo hon ac am gydnabod pwysigrwydd dathlu gwaith prosiectau, partneriaethau a phobl sydd yn gwneud cymunedau yn ddiogelach ar draws Cymru.”