Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 19 oed wedi cael ei garcharu am naw mlynedd yn dilyn trywanu yng Nghaergybi.
Ymddangosodd James Rees o Gae Ysgubor, Bae Trearddur yn Llys y Goron, Caernarfon heddiw wedi ei gyhuddo o niwed corfforol difrifol gyda'r bwriad i anafu a bod ag arf peryglus mewn lle cyhoeddus.
Yn dilyn ymosodiad difrifol heb ei brofocio gyda chyllell gan Rees ar 7 Ionawr 2022, mae'r dioddefwr yn ystyried ei hun yn lwcus iawn o fod wedi goroesi. Roedd yn ddiolchgar am gymorth ei ffrind yn y fan a'r lle a'r llawdriniaeth a gafodd yn Ysbyty Gwynedd.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Leslie Ellis: “Mae hyn yn rhoi neges glir i'r rhai sy'n cario cyllyll ar y strydoedd yng Ngogledd Cymru ac mae hyd y ddedfryd yn adlewyrchu'r hyn sydd i'w ddisgwyl i rai sy'n torri'r gyfraith yn y modd hwn. Mae'n ffodus na chollodd neb eu bywyd oherwydd mi allai'r ddedfryd wedi bod yn llawer mwy difrifol.
“Cydymdeimlaf gyda'r dioddefwr a'i deulu a gobeithio eu bod yn fodlon gyda'r canlyniad heddiw."
Fe'i dedfrydwyd am naw mlynedd o garchar. Derbyniodd orchymyn atal amhenodol.
Dywedodd Arolygydd Adam Sergeant: “Mae cario cyllell a'i ddefnyddio mewn ffordd fel hyn yn gallu achosi niwed difrifol i bawb. Bu bron i'r dyn ifanc yma golli ei fywyd; dim ond diolch i'w ffrind a'r staff yn Ysbyty Gwynedd y llwyddodd i oroesi.
“Croesawir y ddedfryd heddiw; dylai pobl sy'n cario cyllyll a'u defnyddio yn y ffordd yma gael eu clou yn y ddalfa er mwyn iddynt gael adlewyrchu ar eu hymddygiad."
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymroi i daclo troseddau treisgar, a byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ddigwyddiadau fel hyn.