Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 27 oed wedi cael ei ddedfrydu i oes o garchar am geisio llofruddio dau berson ym mis Mai eleni.
Dywedodd yr Ei Anrhydedd yr Ustus Griffiths yn Llys y Goron yr Wyddgrug y bore 'ma y bydd yn rhaid i Ryan Wyn Jones o ardal Corwen y bydd yn rhaid iddo aros yn y carchar am o leiaf 20 mlynedd. Cafodd ei ddedfrydu hefyd am ddwy flynedd am ymosod, a chwe mis am fod ag arf miniog mewn lle cyhoeddus. Bydd y ddau dedfryd yn rhedeg ar y cyd:
Gadawodd Jones y dioddefwyr yn ymladd am eu bywydau ar ôl ymosodiad "creulon a pharhaus o dan ddylanwad cocên" gan adael cyllell ym mhen un ohonynt.
Meddai Ditectif Brif Arolygydd Myfanwy Kirkwood wedi'r ddedfryd: "Rydym yn croesawu'r ddedfryd gan Ei Anrhydedd yr Ustus Griffiths heddiw.
Roedd troseddau Ryan Wyn Jones yn erchyll ac ni ddylai neb ddioddef troseddau mor erchyll â hyn.
"Mi ddylai'r dioddefwyr fod wedi teimlo'n ddiogel yn eu cartref ac oni bai i blentyn chwilio am help mi fuasai'r canlyniad wedi bod yn wahanol iawn.
Bydd gweithredoedd Ryan Jones yn cael effaith hirdymor ar ei ddioddefwyr ac rwyf yn eu canmol am ddod ymlaen i chwilio am gyfiawnder."
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymroi i daclo troseddau treisgar, a byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ddigwyddiadau fel hyn. Gellir cysylltu â Byw Heb Ofn ar 0808 801 0800