Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 66 oed wedi'i garcharu ar ôl iddo dwyllo wrth weithio fel cyfreithiwr yn yr Wyddgrug.
Ymddangosodd Richard Hallows, o Benarlâg, ger bron Llys y Goron Caernarfon heddiw (dydd Gwener 8 Rhagfyr) ar ôl pledio'n euog i dwyll drwy gamddefnyddio ei swydd, gyda chyfanswm y golled yn £880,000.
Rhwng 2016 a 2018, wrth weithredu ar ran ei gleientiaid, defnyddiodd Hallows gronfeydd a ddylai fod wedi bod mewn cyfrifon cleientiaid er ei elw personol ei hun, gan roi ei ddioddefwyr mewn perygl o ddioddef colledion sylweddol.
Gwnaeth yr heddlu ymchwilio pum cwyn ar wahân o weithgarwch twyllodrus, hefo'r golled unigol uchaf yn £600,000.
Amcangyfrifir fod cyfanswm y colledion i gleientiaid dros £880,000.
Derbyniodd ddedfryd o pum mlynedd a 10 mis o garchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl David Hall o'r Uned Troseddau Economaidd: "'Da ni'n croesawu canlyniad heddiw sy'n benllanw ymchwiliad hir a heriol.
"Ni ddylai'r rhai hynny sy'n twyllo feddwl y gwnaiff galwedigaeth broffesiynol sy'n edrych yn barchus ar y tu allan eu gwarchod nhw rhag cael eu craffu."
Derbyniodd un cleient a oedd wedi gofyn am gronfeydd werth £600,000 mewn cyfrif yn ôl sawl esgus gan Hallows. Roedd y rhain yn cynnwys ei fod wedi methu awyren a thrên, fod ei gyn wraig wedi llewygu, fod ei ferch yn derbyn llawdriniaeth a bod y banc angen saith diwrnod gwaith er mwyn prosesu'r cais. Ni roddodd Hallows y cronfeydd yn ôl.
Fe wnaeth cleient arall benodi Hallows fel ysgutor stad werth £143,000 yn dilyn marwolaeth aelod o'r teulu. Rhwng 2016 a 2018 rhoddwyd sawl esgus am beidio rhannu'r stad rhwng y teulu. Yn dilyn ymchwiliadau, canfuwyd fod Hallows wedi defnyddio'r cronfeydd ar gyfer pethau eraill.
Fe ychwanegodd DC Hall: "Ar y pryd, roedd Hallows yn gyfreithiwr wedi'i reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA), ac hefo practis ei hun. Fe ddwynodd arian o gyfrif y cleient er mwyn talu ei ddyledion ef ei hun yn hytrach na dyledion ei gleientiaid.
"Mae ei ymddygiad wedi gadael llanast i ddioddefwyr a wnaeth ymddiried ynddo fo a'r gwasanaethau proffesiynol roedd yn honni eu cynnig.
"Fe wnawn ni barhau i gydweithredu'n agos hefo asiantaethau partner er mwyn dod ag unrhyw un sy'n camddefnyddio eu swydd gyfrifol o flaen eu gwell.
"Buaswn i'n hoffi diolch i Isadran Ryngwladol a Throseddau Difrifol, Economaidd a Threfnedig GEG a Nicola Daley y Cwnsler Erlyn am eu cyngor a'u help yn ystod yr ymchwiliad, gan ddod â diwedd llwyddiannus i'r mater."
Dywedodd Claire Busby, Erlynydd Arbenigol o GEG: "Fe wnaeth Hallows gamddefnyddio ei swydd gyfrifol fel cyfreithiwr er ei elw personol ef ei hun. Wrth wneud, fe roddodd ei gleientiaid mewn perygl o ddioddef colled ariannol fawr.
"Bydd achos atafaelu yn cael ei wneud yn erbyn Mr Hallows.
"Mae GEG wedi ymroi cydweithredu'n agos hefo'r heddlu er mwyn taclo twyll a dod â throseddwyr o flaen eu gwell. Ni wnawn ni betruso erlyn mewn achosion fel hyn."
Os oes unrhyw un yn meddwl eu bod nhw wedi dioddef twyll, mi allwch chi riportio pryderon wrth yr heddlu drwy ein gwefan ni neu drwy ffonio 101, neu fel arall drwy Action Fraud.
Am fwy o wybodaeth ac am gyngor am dwyll, ewch i Cyngor ynglŷn â thwyll | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)