Stamp amser presennol: 18/07/25 09:20:21
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

North Wales Police crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi
  1. ...
  2. Newyddion

Arestiadau cyntaf Ymgyrch Atal Yfed a Gyrru a Gyrru ar Gyffuriau

Cynnwys y prif erthygl

Newyddion
Cyhoeddwyd: 17:06 08/12/23

Mae dros 25 o arestiadau wedi cael eu gwneud gan swyddogion fel rhan o'r Ymgyrch Atal Yfed a Gyrru a Gyrru ar Gyffuriau’r Nadolig.

Ers cychwyn yr ymgyrch ar 1 Rhagfyr mae 10 o arestiadau yfed a gyrru a 18 o arestiadau am yrru ar gyffuriau wedi’u gwneud ar draws y rhanbarth.

Bydd sawl o’r rhai a gafodd eu harestio ar amheuaeth o yfed a gyrru yn ymddangos o flaen y llys cyn y Nadolig ac maent yn wynebu’r posibilrwydd o golli eu trwydded gyrru a derbyn dirwy.

Lefel alcohol uchaf yr ymgyrch hyd yn hyn ydy 97 (35 ydy’r terfyn cyfreithiol) lle cafodd dyn 32 oed ei arestio yng Nghei Connah ar 2 Rhagfyr. Mae’r dyn, sydd o’r ardal, eisoes wedi cael ei gyhuddo o yfed a gyrru ac mi fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon yr Wyddgrug ar 21 Rhagfyr.

Mae’r rhai a gafodd eu harestio ar amheuaeth o yrru ar gyffuriau yn gorfod aros am ganlyniadau profion pellach cyn fydd penderfyniad am gyhuddo yn cael ei wneud. Gwnaeth y rhai a gafodd eu harestio roi profion positif am ganabis a chocên. Bu dau o’r rheini yn bositif am y ddau gyffur. Mae’r rhai a gafodd eu harestio rhwng 17 a 60 oed.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Simon Barrasford: “Fe ddylai unrhyw un sy’n ystyried gyrru, tra byddant o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, wybod y byddwn allan yn disgwyl amdanynt.

“Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo’n llwyr ceisio cadw’r ffyrdd yn saffach a thargedu’r rhai hynny sy’n peryglu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill.”

“’Da ni wedi ymrwymo gwneud y ffyrdd yn saffach i bawb a ‘da ni’n parhau targedu’r rhai sy’n peryglu bywyd eu hunain a phobl eraill.

“Bydd nifer yn mynychu partïon Nadolig y penwythnos yma a ‘da ni’n erfyn arnyn nhw wneud trefniadau i fynd adref yn ddiogel, ac hefyd eu hatgoffa nhw y gallent fod dros y terfyn cyfreithiol y bore wedyn.

“’Da ni eisiau i bawb fwynhau’r cyfnod ac mae hwn yn un o’n hymgyrchoedd pwysicaf. Er ein bod yn rhoi rhybuddion yn rheolaidd am beryglon gyrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, mae gormod yn parhau i gymryd y risg.”

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae’r ymgyrch eleni wedi gweld dros 25 o arestiadau am yrru o dan ddylanwad alcohol a cyffuriau ar y ffyrdd, a hoffwn i longyfarch a chanmol y swyddogion am eu gwaith caled a’u dyfalbarhad.

“Fodd bynnag, mae’n hynod o siomedig fod rhai pobl yn dal i gymryd y risg o yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau. Mae diogelwch ar y ffyrdd yn bwysig iawn i mi a dwi eisiau gweld pawb yn cyrraedd adref yn ddiogel y Nadolig hwn. Os ydy rhywun yn meddwl mentro yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau, dwi’n erfyn arnyn nhw ail feddwl. Nid yn unig maen nhw’n torri’r gyfraith ond maen nhw’n peryglu eu hunain a phobl eraill. Mae swyddogion yn barod i’w stopio nhw a stopio pobl rhag gyrru o dan ddylanwad a dwi’n gobeithio bydd ymgyrch hysbysebu’r heddlu yn atgyfnerthu’r neges hon.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ynghyd â hysbysebu digidol er mwyn lledaenu’r neges am effaith yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau. Mae hyn yn cynnwys fan hysbysebu ddigidol sy’n teithio ar draws Gogledd Cymru ar ddyddiau allweddol drwy gydol mis Rhagfyr, a hysbysfyrddau digidol mewn canolfannau siopa ym Mangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam sydd yn dangos negeseuon drwy gydol yr ymgyrch. Mae posteri hefyd yn cael eu dosbarthu o amgylch tafarndai, ysgolion uwchradd a cholegau.

Dilynwch yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn yr hashnodau #5Angheuol ac #OpLimit.

Os ‘da chi’n amau bod rhywun yn gyrru pan na ddylent wneud hynny, riportiwch i’r heddlu drwy ffonio 101 (neu ffoniwch 999 os ydy’r perygl ar fin digwydd) neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Gogledd Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Gwasanaeth Sgwrsio
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024​. Cedwir pob hawl.