Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mewn cyfres o ymgyrchoedd gweithredwyd gwarantau o dan ddeddf Cam-drin Cyffuriau, gwnaed ymchwiliadau atal a chwilio, targedwyd gyrwyr am yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau. Hefyd gwiriwyd nifer o bobl sydd â Gorchymyn Diogelu yn erbyn Trais Domestig i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.
Bu dros 120 o swyddogion a staff ar draws yr heddlu yn rhan o'r ymgyrch tri diwrnod o hyd o'r Gwasanaeth Plismona Lleol, y Tîm Dronau, y Cynghrair Arfog a'r Uned Cŵn, Tîm Troseddau Cefn Gwlad a'r Swyddogion Gwirfoddol. Arestiwyd cyfanswm o 44 o bobl am nifer o droseddau. Cyhoeddwyd 16 gwarant ac atafaelwyd cyffuriau Dosbarth A â B, yn ogystal â drylliau tanio ac arfau eraill.
Targedwyd lladron mewn siopau, yn ogystal â rhai a oedd yn eisiau am fethu ymddangos yn y llys. Tra bod hyn yn digwydd bu ein SCCH yn amlwg yn ein cymunedau lleol yn ymgysylltu â chymunedau ac yn tawelu meddyliau ac yn rhoi cyngor ynglŷn â chadw eu heiddo a'u cerbydau yn ddiogel.
Dywedodd Chris Allsop, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol: “Mae'r gweithgareddau hyn yn cael eu gwneud bob dydd ar draws yr ardal, ond yn achlysurol byddwn y gwneud ymdrech fwy dwys er mwyn lleihau troseddu.
"Mae'r neges yn glir i ladron, rhai sy'n cario arfau neu yn gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau - does dim croeso i chi yng ngogledd Cymru."
Rydym wedi ymrwymo i wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld yn y DU.