Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cefnogwyr CPD Wrecsam yn cael eu hatgoffa i ymddwyn yn dda yn ystod y tymor sydd i ddod.
Yn dilyn llwyddiant diweddar y clwb yn sicrhau dyrchafiad i Gynghrair 2 yr EFL bydd y tymor yn cychwyn am 3pm ar ddydd Sadwrn, 5 Awst gyda gêm yn erbyn MK Dons.
Er nad oes llawer o broblemau wedi bod ar ddyddiau'r gemau, rydym yn atgoffa cefnogwyr bod ein dull dim goddefgarwch tuag at ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bodoli y tymor hwn.
Bydd unrhyw un sy'n achosi trafferthion yn cael eu cosbi'n llym.
Dywedodd Uwcharolygydd Simon Barrasford: "Dan ni'n gwybod pa mor bwysig fydd y tymor hwn i gefnogwyr Wrecsam a byddwn yn ymuno â nhw yn eu cefnogi. Mae'n wych gweld sut mae'r gefnogaeth i Wrecsam wedi tyfu yn rhyngwladol, gyda chymaint yn eu dilyn.
"Yn sgil eu llwyddiant diweddar mae'r ddinas yn derbyn sylw rhyngwladol ac wrth i'r tymor nesaf ddechrau a'r tîm yn mynd i Gynghrair 2 yr EFL mae disgwyl i'r Cae Ras fod o dan ei sang bob wythnos gyda nifer fawr o gefnogwyr yn teithio oddi cartref hefyd.
"Dan ni am gael enw da i'r ddinas ac mae ymddygiad y cefnogwyr yn gyffredinol yn ardderchog. Prin iawn yw'r problemau ar ddiwrnod gêm ac mae'r cefnogwyr yn deilwng o'r ddinas.
“Serch hynny, rhaid i ni bwysleisio na fyddwn yn dioddef unrhyw anhrefn, cyffuriau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol y tymor hwn. Bydd unrhyw un cymryd rhan mewn ymddygiad o'r fath yn cael eu cosbi.
"Mae yna Orchmynion Gwahardd Pêl-droed hir wedi bod a hyd yn oed dedfrydau o garchar i rai sy'n euog o droseddau ac fel heddlu, byddwn bob amser yn defnyddio'r cosbau hynny i'r eithaf.
"Rwyf yn sicr bod cefnogwyr dilys am fod yn rhan o ddyfodol cyffrous Wrecsam ond dylent i gyd fod yn ymwybodol o ganlyniadau difrifol torri rheolau o fewn caeau pêl-droed ac unrhyw anhrefn arall ar ddiwrnod gêm.
"Mae cadw cefnogwyr yn ddiogel yn flaenoriaeth ac mae'r gwaith yn parhau gyda'r clwb, y cefnogwyr a'r gymuned ehangach er mwyn sicrhau fod gemau yn y STōK Cae Ras yn ddiogel a dymunol i bawb".
Dywedodd Prif Weithredwr CPD Wrecsam Fleur Robinson: “Wrth i ni nesáu at y noson cyn y gem gyntaf yn yr EFL mae’r clwb a Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i weithio gyda’i gilydd i ganfod cefnogwyr sy’n troseddu neu sy’n amharu ar fwynhad cefnogwyr eraill o amgylch STōK Cae Ras.
“Mae’r clwb yn chwilio am rhagoriaeth ar y cae ac oddi ar y cae a bydd unrhyw gamymddwyn neu lafarganu sarhaus yn cael ei gosbi wrth i ni gydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i erlyn.”