Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau wedi cael eu harestio yn dilyn gwarant yn ardal Wrecsam ddoe.
Ar ddydd Iau, 24 Awst cynhaliodd Tîm Troseddau Cefn Gwlad warant mewn eiddo yn ardal Wrecsam mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i ddwyn gwartheg o Lannerchymedd, Ynys Môn.
Arestiwyd dyn 20 oed a dynes 21 oed ar amheuaeth o gynllwynio i ddwyn. Mae'r ddau wedi'u rhyddhau o dan ymchwiliad.
Cafwyd hyd i gerbyd a ddefnyddiwyd yn y drosedd a'i atafaelu ynghyd â beic pedair olwyn a dau drelar.
Yn ystod y warant, gofynnwyd i'r RSPCA fynd i'r lleoliad i edrych ar les nifer o sŵn. O ganlyniad, gwnaed hysbysiad adran 9 sef gweithredu i wella lles anifeiliaid.
Bydd yr RSPCA yn ymweld eto.
Dywedodd Rhingyll Peter Evans o Dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru: "Ni fyddai hi wedi bod yn bosib cyflawni'r warant heb gefnogaeth swyddogion a staff Gogledd Cymru, a Heddlu Sir Gaer. Roedd hyn yn cynnwys ein huned dronau ac ymchwilydd cerbydau arbenigol o'r Uned Troseddau Cefn Gwlad Cenedlaethol."