Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio yn dilyn adroddiadau am ymyrryd ar gerbydau yn ardal Gogledd Gwynedd.
Dros y penwythnos, gwnaethom dderbyn pedwar adroddiad am ymyrryd ar gerbydau yn ardaloedd Tregarth a Deiniolen.
Ar nos Lun (31 Gorffennaf), gwnaethom dderbyn adroddiad pellach am ladrad o gerbyd yn ardal Bangor.
Yn dilyn ymholiadau gan swyddogion, arestiwyd dyn 41 oed a dyn 51 oed ar amheuaeth o fynd â chyfarpar a dwyn o gerbydau modur. Mae'r ddau ddyn yn parhau yn nalfa'r heddlu tra mae ein hymholiadau'n parhau.
Dywedodd y Rhingyll Ben Pugh: "Cysylltwch os welsoch chi unrhyw beth amheus yn yr ardaloedd hyn dros y dyddiau diwethaf, neu os oes gennych ffilm cloch drws neu gamera cerbyd o'r digwyddiadau."
"Rwyf yn annog trigolion ystyried diogelwch eu cerbydau wrth eu gadael dros nos. Sicrhewch eu bod wedi'u cloi bob amser a bod unrhyw eitemau gwerthfawr yn cael eu tynnu oddi yno.
"Buaswn hefyd yn cynghori trigolion yn yr ardaloedd hyn wirio eu cerbydau. Os ydych yn amau fod rhywun wedi bod yn eich cerbyd neu fod unrhyw eitemau wedi'u dwyn, cysylltwch â'r heddlu drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiadau hyn gysylltu â'r heddlu drwy'n gwefan drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 23000697545.