Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae un Prif Gwnstabl arloesol yn olynu un arall er mwyn arwain Cymdeithas Merched mewn Plismona Prydain (BAWP).
Bydd Amanda Blakeman, y ferch gyntaf i fod yn Brif Gwnstabl Gogledd Cymru, yn olynu Michelle Skeer, Prif Gwnstabl Cumbria sy'n ymddeol, fel cadeirydd. Michelle Skeer oedd y ferch gyntaf i fod yn Brif Gwnstabl yno pan gafodd ei phenodi'n 2018.
Dywedodd Amanda: “Dwi'n falch iawn o gael fy newis yn Gadeirydd BAWP sy'n gwneud cymaint er mwyn cynorthwyo merched o bob rheng mewn plismona ledled y DU.
"Mae Michelle wedi gwneud gwaith gwych yn ystod cyfnod heriol i blismona.
“Mae hi wedi bod yn esiampl wych i ferched ar draws plismona. Dwi'n edrych ymlaen at weithio hefo’r Bwrdd er mwyn ychwanegu at ei holl waith ac arweinyddiaeth wych.
"Buaswn i'n hoffi mynegi fy niolch cywiraf i Michelle am ei gwaith gyda'r Gymdeithas. Dwi'n dymuno'r gorau oll iddi i'r dyfodol."