Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Drwy gydol mis Gorffennaf, gwnaethom 145 o ganlyniadau cadarnhaol yng Ngogledd Cymru am droseddau treisgar yn erbyn merched a genethod (VAWG).
Mae canlyniad cadarnhaol yn cynnwys gweithredu cadarnhaol yn dilyn arestiad, gan gynnwys cyhuddiadau, gwŷs, ceisiadau drwy'r post, rhybuddion, ystyriaethau (TICs), hysbysiad cosb am anrhefn (PND), rhybuddion cyffuriau a datrysiadau cymunedol/adferol.
Cofnodwyd yn ystod y mis 71 cyhuddiad, 49 o gyhuddiadau trosedd amgen, tri rhybudd ieuenctid, un rhybudd trosedd amgen ac 16 o ddatrysiadau cymunedol.
O’r holl ganlyniadau cadarnhaol, roedd 65% (94 trosedd) yn ddomestig.
Roedd bron i 40% (56) yn droseddau treisgar gydag anaf a bron i 23% (33) ynghylch stelcian ac aflonyddu.
Roedd ychydig dros 10% yn achosion o drais rhywiol.
Dywedodd Arweinydd VAWG Heddlu Gogledd Cymru, Prif Uwcharolygydd Jason Devonport: “Dan ni’n parhau i geisio atal trais yn erbyn merched a genethod a chodi ymddiriedaeth er mwyn annog dioddefwyr i siarad yn erbyn trais.
“Dan ni’n cydnabod bod mwy i’w wneud, a dan ni’n gweithio’n galed i sicrhau y byddwn yn cosbi unrhyw un sy’n troseddu yn erbyn merched a genethod yng Ngogledd Cymru yn llym.
“Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i bod adroddiad a ddaw atom ni a bydd pob achos yn cael ei drin gyda’r difrifoldeb pennaf.
Cyhoeddir adroddiad bob mis er mwyn amlygu’r gwaith sy’n cael ei wneud er mwyn ymdrin â thrais yn erbyn merched a genethod yng Ngogledd Cymru.
Gallwch ddarllen adroddiad y mis diwethaf yma - Canlyniadau cadarnhaol am ymdrin â thrais yn erbyn merched a genethod yn Gogledd Cymru i cael ei gyhoeddi yn misol | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)