Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fel rhan o ymgyrch barhaol er mwyn lleihau anafiadau a marwolaethau hefo beicwyr modur, bu swyddogion o’r Uned Plismona Ffyrdd ymweld â Betws-y-Coed ddoe (dydd Sul, 3 Medi) fel rhan o Ymgyrch Darwen Heddlu Gogledd Cymru.
Gyda’r tywydd braf a chynnes, roedd yn amser perffaith i swyddogion gyfleu eu negeseuon diogelwch fel rhan o’r ymgyrch, sydd wedi’u hanelu at hyrwyddo diogelwch beicwyr a codi ymwybyddiaeth o’r peryglon a’r ymddygiad sy’n gallu arwain at wrthdrawiadau difrifol ac angheuol.
Bu swyddogion ar feiciau modur yr heddlu ymweld â’r ardal, sy’n hynod o boblogaidd hefo beicwyr modur, a siarad hefo nifer o bob oed.
Dywedodd y Rhingyll Jason Diamond, sy’n arwain ar Ymgyrch Darwen ar ran Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru, “Yn anffodus, yn ystadegol, mae beicwyr modur yn rhai o’r defnyddwyr ffyrdd mwyaf bregus sy’n cael eu heffeithio’n anghymesur gan wrthdrawiadau.
“Mae Gogledd Cymru yn denu beicwyr modur oherwydd prydferthwch yr ardal, ac fel beiciwr modur brwdfrydig fy hun, dwi’n gwybod fy mod innau, ynghyd â fy nghydweithwyr eraill sy’n beicio, yn angerddol am sut y gallwn gydweithio er mwyn ceisio lleihau’r ystadegau yma. Mae lleihau’r nifer sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.
“Mae pob marwolaeth ac anaf difrifol yn cael effaith ddinistriol, felly roedd ddoe yn gyfle i ni siarad hefo beicwyr modur ar sut y gallent chwarae eu rhan er mwyn lleihau marwolaethau ac anafiadau sy’n cael eu dioddef gan fodurwyr. Mae hyn yn cynnwys teithio ar gyflymder addas ar gyfer amodau’r ffyrdd, gwisgo dillad addas gan gynnwys helmed a bod yn ymwybodol o’r effaith y gall alcohol/cyffuriau gael ar feiciwr/gyrrwr.
“Nid trio eich atal rhag reidio ar ein ffyrdd ‘da ni, ond ceisio eich atal rhag cael eich lladd. Dewch yma, reidiwch yn ddiogel, ewch adref, a gwneud yr un peth dro ar ôl tro. Dewch yma, reidiwch yn beryglus, colli eich trwydded – neu eich bywyd. Eich dewis chi.”
Gan ddefnyddio’r is-bennawd Ei di adra heno cafodd bagiau eu dosbarthu – a oedd yn cynnwys pamffledi yn hybu hyfforddiant pellach, buff/snood a chylch allweddi.
Ychwanegodd y Rhingyll Diamond: “’Da ni wedi meddwl yn ofalus iawn am gynnwys y bagiau yma – hefo’r gobaith bydd y beiciwr modur yn cofio ein sgwrs ni a’i chadw mewn cof tro nesaf y byddent yn mynd allan ar eu beic.
“Roedd yr adborth ddoe yn hynod o bositif. Ddaru ni siarad hefo nifer fawr o feicwyr modur o bob oed – rhai lleol ac o dros y ffin. Dwi’n gobeithio eu bod nhw wedi cael rhywbeth allan o’r sgwrs. Mae rhagor o ddigwyddiadau tebyg yn cael eu trefnu ar gyfer flwyddyn nesaf a dwi’n erfyn arnoch chi i gadw llygad ar ein gwefan ni a’r cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth.”
Yn ystod y diwrnod roedd arddangosiadau yn cael eu cynnal gan gwmni ORMS (Outreach Rescue Medic Skills) yn ymwneud â datgymalu helmed diogelwch a dangos y fest aer.
Dywedodd Richard Birkby o gwmni ORMS: “Roedd hwn yn gyfle gwerthfawr i ni hybu ein cyrsiau First Bike on Scene (FBOS) ni – menter sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n cael ei chefnogi gan awdurdodau lleol Gogledd Cymru.
“Call reidwyr gael sgiliau hanfodol er mwyn amddiffyn eu hunain a phob eraill, gan gynnwys diogelwch man a lle digwyddiad, CPR, cadw tystiolaeth a datgymalu helmedau diogelwch.
“Cynhelir cyrsiau ar rai Suliau yn ein cyfleuster ger Bethesda, Gwynedd a buaswn yn annog pob beiciwr modur i gymryd y cyfle gwych yma.”
Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau FBOS ar gael yma ORMS – Developing Hazardous Environment Medicine (orms247.com)
Nodiadau:
Gellir cael mwy o wybodaeth ac archebu lle drwy BikeSafe – the UK's #1 police-led motorcycle safety initiative