Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
'Da chi'n rhedeg eiddo neu fenter yn ardal Wrecsam Wledig lle gallech chi o bosib ddod ar draws pobl wedi dioddef cam-drin domestig?
'Da ni'n gofyn am eich help wrth ddiogelu dioddefwyr fel rhan o'n menter 'Llais'.
Fe ddaw fel rhan o Ymgyrch Blue Silver Birch, ymgyrch wnaethon ni ei lansio'n gynharach eleni. Mae'n canolbwyntio ar drais domestig er mwyn helpu gwarchod dioddefwyr ymhellach a lleihau troseddau yn Wrecsam Wledig.
Nod yr ymgyrch ydy nodi dioddefwyr a rhai o dan amheuaeth o gam-drin domestig cyn gynted â phosibl er mwyn cynorthwyo gydag arestiadau cynnar, diogelu dioddefwyr a galluogi ymchwiliadau trwyadl er mwyn helpu cryfhau achosion.
Fel rhan o Llais, 'da ni'n gofyn i fusnesau lleol am eu help wrth adnabod cam-drin domestig a chynorthwyo eu cwsmeriaid.
Bydd y rhai hynny sy'n cymryd rhan yn dysgu am gam-drin domestig, sut i adnabod yr arwyddion a sut i gyfeirio dioddefwyr at yr asiantaethau cymorth cywir.
Ar ben hyn, mae Llais yn cynghori ar sut i ddarparu mannau saff ac opsiynau i ddioddefwyr trais domestig.
Os 'da chi'n ddioddefwr, peidiwch â dioddef yn dawel – mae sawl ffordd o chwilio am help.
Am fwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan, neu gofrestru eich tîm, dilynwch y ddolen yma Cysylltu â swyddog neu aelod o staff yr heddlu | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk). Gofynnwch am gael siarad â'r Rhingyll Sophie Ho.