Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae perchennog ci wedi cael ei erlyn yn dilyn ymosodiad yn Wrecsam a laddodd 22 o famogiaid beichiog. Anafwyd 40 dafad arall yn y digwyddiad.
Ymddangosodd David Hughes, 26 o Ben y Wern, Rhosllanerchrugog yn Llys Ynadon Wrecsam ar Ddydd Mawrth, 22 Awst lle cyfaddefodd bod ei gi yn beryglus ac allan o reolaeth ac ei fod yn berchennog ci a fu'n aflonyddu anifeiliaid fferm.
Cafodd ei wahardd rhag cadw cŵn am bum mlynedd a'i orchymyn i dalu £900 mewn dirwy.
Digwyddodd yr ymosodiadau rhwng dau gi o'r brid 'American XL Bulldog" ar dir amaethyddol yn Rhosllannerchrugog ar 6 Mawrth eleni.
Er i'r ffermwr geisio atal y cŵn rhag ymosod ar yr anifeiliaid, ni lwyddodd i'w cael o dan reolaeth cyn i un ddechrau ymosod arno fo hefyd.
Saethwyd y ddau gi gan y ffemwr yn y fan a'r lle, gyda chost y digwyddiad yn fwy na £14,000.
Dywedodd PC Chris James: “Rwyf yn croesawu'r ddedfryd yn dilyn digwyddiad erchyll. Mae'r ffermwr yn dioddef effeithiau'r digwyddiad hyd heddiw. Mae'r effaith emosiynol ac ariannol ar y ffermwr wedi bod yn sylweddol.
"Mae ymosodiadau ar anifeiliaid byw yn dorcalonnus iawn, nid yn unig i'r anifeiliaid, ond i'w perchnogion hefyd. Mae'r costau hefyd, yn ariannol ac yn emosiynol yn gwbl annerbyniol.
"Mae bod yn berchennog cyfrifol ar gŵn yn allweddol wrth ymdrin â'r digwyddiadau ofnadwy hyn sy'n llawer rhy gyffredin. Mae'n bwysig sicrhau bod anifeiliaid anwes yn cael eu cadw ar dennyn yng nghefn gwlad. Os ydynt yn cael eu gadael adref, rhaid sicrhau bod y tŷ neu'r ardd yn ddiogel.
"Dim ond perchennog y ci sy'n gallu atal ymosodiad rhag digwydd, a byddwch yn cael eich cosbi os nad ydych yn gallu rheoli eich anifail.
"Os ydy eich ci wedi dianc mewn ardal wledig, dylech gysylltu â'r heddlu cyn gynted â phosib er mwyn rhybuddio ffermwyr a thirfeddianwyr."