Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion wedi cael wybod am 'rave' anghyfreithlon a oedd i ddigwydd ar safle peryglus yn Llanberis y penwythnos hwn.
Dywedwyd bod y digwyddiad di-drwydded a ddyrchafwyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael ei gynnal yn hen storfa fomiau Glyn Rhonwy ar ddydd Sadwrn, 10 Medi, ond ers hynny mae wedi cael ei ganslo.
Bellach mae Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd yn rhybuddio pobl am beryglon y safle, ac i gadw draw er mwyn eu diogelwch eu hunain.
Dywedodd yr Arolygydd Arwel Hughes: "Dw i'n gwybod bod neges wedi ei chylchredeg ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol fel Tik Tok, Instagram a Snapchat am 'rave' a oedd i'w gynnal ar ddydd Sadwrn 10 Medi ar safle hen storfa fomiau Glyn Rhonwy yn Llanberis.
“Roedd y digwyddiad di-drwydded yn cael ei hyrwyddo o dan faner 'Prosiect X Llanberis' ar gyfer plant 15 oed ac uwch.
“Mae digwyddiad o'r fath yn anghyfreithlon ac yn beryglus.
“Mae swyddogion wedi siarad gyda'r unigolyn y tu ôl i'r cyfrif Tik Tok a hoffwn wneud yn glir na fydd y 'rave' yn digwydd ar y safle.
“Jôc oedd y peth i ddechrau ond aeth pethau dros ben llestri yn sydyn iawn ac mae'r wefan nawr wedi cael ei ddiweddaru ac wedi ei ddileu.
“Hoffwn ofyn i rieni roi'r neges hon i'w plant er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei rhannu gan gymaint o bobl â phosib."
Dywedodd Colin Morris, rheolwr cefnogaeth busnes yn Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd: “Mae hen safle fomio Glyn Rhonwy yn beryglus iawn ac rydym yn annog y cyhoedd i gymryd sylw o’r rhybuddion a chadw allan o’r safle er mwyn cadw’n ddiogel.
“Tir preifat yw hwn ac nid yw ar agor i’r cyhoedd. Fel Cyngor, rydym yn ategu neges Heddlu Gogledd Cymru ac yn galw ar rieni i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o beryglon y safle."