Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd swyddogion heddlu a thân yn chwarae pêl droed er mwyn cynorthwyo hosbis yng Ngogledd Cymru y mis nesaf.
Bydd gêm gyfeillgar i godi arian rhwng CPD Gorsaf Heddlu Tref Wrecsam a Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru XI yn cael ei chwarae ym Mharc Bellevue, Wrecsam ar ddydd Sul, 11 Medi.
Bydd yr holl arian a godir yn mynd i elusen Hope House a Ty Gobaith lle mae eu cyfleusterau yn cynnwys rhai yng Nghonwy.
Mae'r sefydliad yn sicrhau fod plant gyda chyflyrau sy'n bygwth bywyd yn mwynhau'r ansawdd bywyd gorau, ynghyd a'u teuluoedd.
Gan ddarparu gofal arbenigol a chymorth gyda galaru, pryd a lle maent ei angen, mae Hope House a Thŷ Gobaith yn gweithio i sicrhau nad oes neb yn wynebu marwolaeth plentyn ar eu pen eu hun.
Mae'r Rhingyll Dave Smith wedi trefnu'r gêm ac mae'n gobeithio y bydd arian hanfodol yn cael ei godi ar gyfer yr elusen.
Dywedodd: "Mae cynorthwyo gwaith sefydliad gwirioneddol wych fel Hope House yn rhywbeth rydw i fy hun a phawb sydd ynghlwm yn falch o fod ynglŷn ag o.
"Mae cystadleuaeth gyfeillgar wedi bod o hyd rhwng swyddogion heddlu a thân, ac mae elfen gystadleuol bob amser pan rydym yn chwarae yn erbyn ein gilydd – beth bynnag fo'r chwaraeon.
"Roedd y gêm hon yn teimlo fel cyfle i wneud rhywbeth cadarnhaol gyda'n gilydd i achos cwbl haeddiannol.
"Mae'r gwasanaethau a gynigir gan Hope House yn hanfodol i blant sy'n ddifrifol wael a'u teuluoedd hefyd.
"Fel rhiant fy hun, gallaf werthfawrogi'n llwyr pa mor werthfawr ydy eu cyfleusterau i deuluoedd pan maent eu hangen.
"Rydym eisiau codi cymaint o arian a phosibl a buaswn yn gofyn i bawb ystyried rhoi cyfraniad, waeth pa mor fach, er mwyn cynorthwyo'r sefydliad gwych hwn."
Gellir cyfrannu ar-lein drwy'r ddolen JustGiving ganlynol: Wrexham Town Police FC is fundraising for Hope House & Ty Gobaith (justgiving.com)
Bydd y gêm yn dechrau am 10yb ac mae croeso i bobl ddod i wylio.