Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn un o 14 heddlu sy’n cymryd rhan mewn y prosiect
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn un o 14 heddlu sy’n cymryd rhan mewn prosiect wedi ei gynllunio i drawsnewid ymateb yr heddlu i drais a throseddau rhywiol difrifol (RASSO).
Mae'r cynllun o'r enw Ymgyrch Soteria Bluestone yn rhaglen ymchwil a newid wedi ei ariannu gan y Swyddfa Gartref, ac yn cael ei arwain gan CPCH. Y nod yw gwella profiad dioddefwyr, a gwella'r graddfeydd erlyn.
Bydd canfyddiadau o'r arolwg hwn yn ffurfio cynllun gwella, gan alluogi swyddogion i gymryd rhan mewn cyfleoedd gwell i ddysgu a datblygu, arweiniad arbenigol a chefnogaeth cyfoedion gan rwydwaith ddysgu genedlaethol y rhaglen.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki: ‘Mae trais a throseddau eraill yn aml yn gymhleth ac rydym yn cydnabod bod rhaid gwneud gwelliannau i fynd i'r afael â riportio isel a graddfeydd erlyn isel.
‘Mae'r prosiect yn rhoi'r cyfle i archwilio'r ffordd yr ydym yn gweithio o fewn ein sefydliad, yn ogystal â phartneriaid yn y system gyfiawnder troseddol a gwasanaethau cefnogi dioddefwyr.
"Ein bwriad yw newid canlyniadau i ddioddefwyr mewn ffordd bositif ac rydym yn edrych ymlaen at wella ein gwaith yn y maes hwn ac i gyflawni'r ymateb a chefnogaeth gorau posib mewn cyfnod pan mae ei angen fwyaf.'
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwy'n falch fod Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd rhan yn yr adolygiad hwn ac rwy'n gobeithio y bydd yn creu newid gwirioneddol i ddioddefwyr trais a throseddau rhywiol yn yr ardal. Pan gefais fy ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd, fe wnes i'n glir bod dod â chyfiawnder i ddioddefwyr trosedd yng Ngogledd Cymru yn allweddol ac rwyf yn gweithio'n galed gyda Heddlu Gogledd Cymru ar ran ein cymunedau bob dydd.
'Mae'n hanfodol bod gan Swyddogion Heddlu'r sgiliau a gwybodaeth i ymateb i ddioddefwyr mewn ffordd effeithiol ac maent yn parhau i adeiladu ar yr arbenigedd hwn drwy gydol eu hamser yn gwasanaethu'r gymuned. Bydd yr adolygiad hwn gobeithio yn arwain at fwy o ddioddefwyr yn dod ymlaen, cynnydd mewn graddfeydd cyhuddo ac erlyn a chyfiawnder i'r rhai sydd ei angen.
‘Dw i wrth fy modd fod Heddlu Gogledd Cymru yn un o’r 14 heddlu cyntaf i gymryd rhan yng ngham dau Ymgyrch Soteria, gan ddangos bod y gwasanaeth a'i swyddogion ar flaen y gad yn brwydro yn erbyn troseddau ac yn gwneud yr ardal yn le mwy diogel i drigolion ac ymwelwyr.'
Cafodd y cynllun ei lansio fel cynllun peilot gan heddlu Avon a Somerset nôl yn 2021. Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan y Swyddfa Gartref ynghyd â heddlu, academyddion, arweinwyr polisi, dioddefwyr ac elusennau a bydd yn creu safon genedlaethol newydd ar gyfer heddluoedd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymuno â'r cynllun ehangach a fydd yn gweld adrannau diogelu yn rhannu sut maent yn gweithio gyda phrif academyddion er mwyn eu gwerthuso.